Ymchwiliad Covid i Gymru 'am ddyblygu gwaith un y DU'
- Cyhoeddwyd
Byddai cynnal ymchwiliad Covid ar wahân i Gymru yn "gorgyffwrdd yn sylweddol" gydag ymchwiliad Llywodraeth y DU fydd hefyd yn digwydd, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.
Dywedodd yr Athro Hugh Pennington, wnaeth gadeirio'r ymchwiliad yn 2005 i E.coli, y byddai'n well ganddo weld ymchwiliad Prydeinig oedd yn rhoi "sylw manwl" i ddigwyddiadau yng Nghymru.
Daw hyn yn dilyn galwadau gan y gwrthbleidiau yn y Senedd am ymchwiliad cyhoeddus penodol i Gymru.
Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dim ond ymchwiliad ar lefel Brydeinig fyddai'n gallu edrych ar "natur cysylltiedig" y penderfyniadau.
Y farn wedi hollti
Gan fod y bedair wlad wedi bod yn dilyn yr un cyngor gwyddonol gan amlaf, dywedodd yr Athro Pennington y byddai ymchwiliad oedd yn edrych ar benderfyniadau Cymreig yn unig yn "anwybyddu gwybodaeth bwysig".
Ychwanegodd na fyddai gan ymchwiliad Cymreig yr un pwerau i fynnu bod pobl yn rhoi tystiolaeth, ond y dylid sicrhau nad oedd Cymru'n "droednodyn" yn yr ymchwiliad Prydeinig ehangach.
Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon eisoes wedi cyhoeddi ymchwiliad ar wahân i'r pandemig fydd yn digwydd "mor fuan â phosib".
Er bod y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw am yr un peth i Gymru, mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi gwrthod hynny sawl gwaith.
Ond dywedodd Mr Drakeford y dylai ymchwiliad Llywodraeth y DU "roi ffocws ar Gymru", gyda Llywodraeth Cymru'n cael llais yn y broses a phenodau penodol yn trafod Cymru.
Mae melin drafod yr Institute of Welsh Affairs hefyd wedi galw am ymchwiliad penodol i Gymru, ond yn gysylltiedig â'r un Prydeinig.
Dywedodd eu cyfarwyddwr Auriol Miller y dylai Llywodraeth Cymru gael eu harchwilio "gan bobl sy'n deall datganoli" er mwyn paratoi'n effeithiol ar gyfer "yr argyfwng nesaf a ddaw".
Ond er y byddai'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn "ymrwymo'n llwyr" i ymchwiliad ar wahân, yn ôl pennaeth Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes, byddai hynny hefyd yn "dasg llafurddwys iawn" fyddai'n rhoi pwysau ychwanegol ar lwyth gwaith sylweddol y byrddau iechyd.
'Ddim yn gwneud synnwyr'
Bu farw Phil Smith, 74, ym mis Ionawr wedi iddo ddal coronafeirws yn yr ysbyty wrth dderbyn triniaeth am ganser.
Mae ei ferch Sam Smith-Higgins yn un o'r rheiny sydd wedi sefydlu ymgyrch Covid-19 Bereaved Families for Justice Cymru er mwyn holi'r cwestiynau "sydd ddim yn cael eu hateb".
Er ei bod hi'n aelod oes o'r blaid Lafur, mae'n dweud nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'w cheisiadau i gwrdd â nhw.
"Ddylen ni ddim orfod bod yn sgrechian am ymchwil Covid penodol i Gymru, ddylech chi fod eisiau edrych ar beth 'dych chi wedi'i wneud yn dda, a lle allwch chi wella," meddai.
"Mae dibynnu ar San Steffan am hynny yn wirion. Dyw'r peth ddim yn gwneud synnwyr, mae gennym ni saith bwrdd iechyd yng Nghymru a dros 200 yn Lloegr."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd gan ymchwiliad ar draws y DU y gallu a'r grym i edrych ar natur cysylltiedig y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar draws y bedair wlad.
"Mae'r prif weinidog wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Ganghellor Dugaeth Caerhirfryn am y materion gwahanol y dylai'r ymchwiliad ganolbwyntio arno er mwyn edrych yn llawn ar weithredoedd Llywodraeth Cymru.
"Mae'r prif weinidog wedi cyfarfod nifer o deuluoedd i glywed am eu profiadau yn ystod y pandemig, ac yn agored i drafodaethau pellach."
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn gyda'r Athro Pennington ar BBC Politics Wales, BBC One Wales am 10:00, ac ar BBC iPlayer yn ddiweddarach.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd20 Awst 2021
- Cyhoeddwyd27 Awst 2021