Pryder am fusnesau o achos prinder byd-eang o geir newydd
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y gallai busnesau yng Nghymru fynd i'r wal oherwydd y prinder byd-eang o geir newydd.
Mewn 10 mlynedd a mwy o werthu ceir dydy Emyr Jones o Garej Regent yng Nghricieth erioed yn cofio cyfnod tebyg.
Yn ganolog i'r cyfan mae'r pandemig a thrafferthion y cwmnïau cynhyrchu ceir i gael gafael ar led-ddargludyddion (semi-conductors).
Dyma'r sglodion cyfrifiadurol sy'n rhan annatod bellach o gymaint o'n peiriannau a'n teclynnau.
"Does dim byd ar gael," meddai Mr Jones. "Mae orders ceir newydd yn cymryd rhyw saith i wyth mis. Gyda rhai modelau fe allai gymryd hyd at flwyddyn.
"Y rheswm ydy'r semi-conductors yma yn fwy na dim byd. Am fod yna brinder o'r rheiny tydyn nhw methu gorffen adeiladu'r ceir.
"Pan ddaeth Covid i ddechrau roedd y showrooms i gyd wrth gwrs wedi cau, a doedd neb yn prynu ceir newydd.
"Naethon nhw stopio'r orders i gyd am fod y ffatrïoedd yn gweithio i drefn just in time. Rŵan, wrth ail-ddechrau, maen nhw wedi gorfod mynd 'nôl i gefn y ciw."
Prisiau ceir ail law yn codi
68,033 o geir newydd gafodd eu gwerthu ym Mhrydain yn Awst. Roedd hynny yn ostyngiad o 22% o'i gymharu â'r un mis y llynedd.
Mae'r sefyllfa yn ei dro wedi cael effaith ar y farchnad ail-law, gyda phrisiau wedi cynyddu'n aruthrol yn y 12 mis diwethaf.
"Mae mwy a mwy o bobl yn prynu ceir ail-law yn lle ceir newydd - yn enwedig ceir o ryw chwe mis i fyny i ddwy oed. Ond, mae'r rheiny yn brin hefyd a'r cyfan yn gyrru'r prisiau i fyny.
"Mae yna rai ceir chwe mis oed y mae pobl yn gofyn yr un faint â char newydd amdanyn nhw - a rhai achosion lle maen nhw'n gofyn hyd yn oed mwy."
Ym Methel ger Caernarfon mae gan Gari Wyn, perchennog Ceir Cymru, flynyddoedd o brofiad o werthu ceir ail-law.
"Mae yna sawl rheswm dros y sefyllfa bresennol," meddai. "Does yna ddim ceir newydd wedi bod yn cael eu cynhyrchu dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Ar ben hynny, doedd y cwmnïau mawr ddim angen ceir newydd. I gymhlethu ymhellach, mae'r semi-conductors yma sy'n allweddol i'n pethau trydanol ni i gyd - o ffonau, i gemau cyfrifiadurol i geir - mae'r rheiny yn anodd i'w cael.
"Mae cynhyrchiant gwerthwyr ceir ar draws Ewrop i lawr i tua 40% o'r hyn maen nhw'n arfer gynhyrchu."
'Bydd rhaid talu'r pris'
Ychwanegodd: "Mae goblygiadau i'r economi leol. Cymerwch Ceir Cymru fel enghraifft. 'Da ni fel arfer yn cadw 150 o geir, ond 'da ni i lawr ar hyn o bryd i 65.
"'Da ni fel arfer yn gwario ryw £30,000 bob mis efo cwmnïau lleol, yn rhoi yn ôl i mewn i'r economi. Mae pawb yn colli allan.
"Pan 'da chi'n dechrau cyfri faint sy'n gweithio yn y diwydiant ceir yng Ngwynedd, mae o'n agos i faint sy'n gweithio yn y diwydiant amaeth.
"Y gwir amdani mae cwmnïau bach yn mynd i gael eu cicio allan o'r busnes. Does dim dwywaith amdani - yn enwedig y cwmnïau yna sy'n benthyg lot fawr o arian.
"Mae hwn yn rhywbeth sydd yma, nid am y tri mis nesa', ond am y 12 mis nesa'. Os 'da chi angen car dros y flwyddyn, ddwy nesa' yna fydd raid i chi dalu'r pris."
'Nôl yng Nghricieth a mae Emyr Jones hefyd yn credu y bydd y cyfan yn cymryd amser.
"Mae'n siŵr eich bod chi'n edrych ar ddwy flynedd o leiaf, ond sa'n gallu bod yn hirach na hynny. Mae'r rhan fwyaf o bobl efo'i cycle lle maen nhw'n newid ceir bob ryw dair i bum blynedd.
"Ond gan nad oes yna lawer yn newid eu ceir rŵan, yna 'da ni'n edrych ar ddwy i dair blynedd arall lle na fydd digon o geir newydd ar y farchnad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2021
- Cyhoeddwyd22 Medi 2020