'Dim digon o help i'r diwydiant ceir yn sgil Covid-19'

  • Cyhoeddwyd
Emyr Vaughan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Emyr Vaughan Jones o Garej Regent, Cricieth

Mae mis Medi, yn draddodiadol, yn fis prysur i werthwyr ceir newydd wrth i'r plât cofrestru newid - ond mae eleni yn wahanol iawn.

Fel sawl sector arall, mae pethau wedi bod yn anodd i'r diwydiant gyda ffatrïoedd cynhyrchu a garejis wedi bod ynghau am fisoedd.

Mae rhai rŵan yn galw am fwy o gymorth i'r sector moduro.

Gyda chymaint yn gweithio o adre' ar hyn o bryd, mae 'na lai ar y lôn a hynny, ynghyd â sawl ffactor arall, yn cael effaith ar y diwydiant ceir.

'Pobl yn gyndyn i ddod i'r garej'

Yn ôl y Gymdeithas Gwneuthurwyr a Gwerthwyr Ceir, roedd 'na 5.8% yn llai o geir newydd wedi'u gwerthu fis Awst yma o'i gymharu â'r llynedd - ac mae gwerthiant eleni i lawr bron i 40% hyd yma, gyda 915,615 o geir wedi'u cofrestru yn yr wyth mis cynta'.

O'r cynhyrchwyr ceir ar draws y byd i'r garejis cefn gwlad, roedd pawb ynghau am gyfnod - ac mae'r heriau ers ailagor yn parhau.

"Mae 'na rai pobl yn dal yn gyndyn i ddod i'r garej, dy'n nhw ddim yn licio'r syniad o fynd mewn i geir a phobl eraill 'di ista ynddyn nhw a ballu," meddai Emyr Vaughan Jones o Garej Regent yng Nghricieth.

"Felly ma' petha' ar y cyfan yn dal 'chydig bach yn slofach na fasa ni'n licio ar y funud.

"Mae'r rhan fwya' o bobl sy'n mynd am geir newydd dyddiau yma yn prynu nhw dros dair neu bedair blynedd ar finance, ond ma' nhw'n reit gyndyn o 'neud hynny ar y funud."

Disgrifiad o’r llun,

Ydy ceir trydan wedi elwa o'r cyfnod ansicr?

Dydy o ddim yn credu bod y diwydiant moduro wedi cael digon o gymorth i ddelio ag effeithiau'r pandemig.

"I gysidro faint o gymorth ma' rhai sectorau eraill wedi'i gael, dwi ddim yn meddwl bod ni 'di cael digon o help," meddai Mr Jones.

"Fasa'r llywodraeth 'di gallu gwneud mwy i helpu - fatha dod â'r VAT ar geir newydd i lawr 'chydig bach, neu jyst dod â scrappage scheme arall. Fasa fo wedi gwneud lot o help."

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu bod "wedi ymrwymo yn llwyr i ddyfodol cryf i'r diwydiant moduro ym Mhrydain" a'u bod wedi "cyflwyno pecyn ariannol eang i helpu busnesau drwy'r pandemig yn cynnwys dros £50 biliwn mewn benthyciadau, hyblygrwydd gyda biliau treth a chymorth i dalu staff.

"Yn ogystal mae 'na ymrwymiad o dros £1 biliwn i ddatblygu technolegau gwyrdd o fewn y diwydiant moduro," meddai llefarydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae hi wedi bod yn gyfnod prysur i garej Ceir Cymru ym Methel ger Caernarfon

I'r sector ceir ail law wedyn, mae wedi bod yn gyfnod tipyn gwell.

Dywed Gari Wyn o gwmni Ceir Cymru: "Dwi'n meddwl bod hi'n deg dweud bod prisiau ceir ail law wedi codi tua 10% yn eu gwerth ers i ni ailagor. 'Da ni 'di gwerthu mwy o geir eleni, 'da ni 'di bod yn trwsio mwy o geir."

Mae o'n credu bod 'na sawl ffactor yn gyfrifol, gan gynnwys y ffaith bod pobl yn gyndyn i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

"Ma' pobl y dinasoedd wedi penderfynu mynd yn ôl i ddau gar, tra cynt oedd sawl un wedi mynd lawr i un car. Ma' hynny wedi effeithio ar brisiau'r farchnad felly ma' prisiau ceir ail law, yn enwedig rhai sy' bron yn newydd, wedi mynd trwy'r to.

"'Da ni'n prynu lot o'n ceir ni mewn ocsiwns - mae'r ceir sy' tu ôl i mi'n fa'ma, taswn i 'di prynu rhain chwe mis yn ôl, faswn i 'di prynu nhw rhyw ddwy fil o bunnau'n rhatach nag ydyn nhw rŵan.

"Ond ma' pobl yn dal angen eu ceir ac ma' pobl yn mynd i roi'r pris amdanyn nhw achos, ar ddiwedd y dydd, ma' ceir ail law yn dal well bargen na ceir newydd sbon."

'Brexit eto i ddod'

Er bod 'na lygedyn o obaith, mae arbenigwyr fel y newyddiadurwr moduro Mark James yn rhagweld dyfodol ansicr yn gyffredinol.

"Ry'n ni wedi gweld rhai rhannau o'r diwydiant, fel ceir trydan, yn pigo lan," meddai.

"Hefyd chi'n gweld pobl sy' ddim falle'n gweld bod nhw'n cael digon o elw o'r banc yn meddwl nawr, 'wel allwn i sboelo'n hunan a prynu car o'n i ddim falle'n meddwl prynu cyn yr holl beth'.

"Felly ma'r diwydiant yn dechra' dod mas o'r holl beth ond, wrth gwrs, dy'n ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd dros y misoedd i ddod. Dy'n ni ddim mas o Covid, ac mae Brexit eto i ddod."