Tonypandy: Menyw, 28, mewn cyflwr difrifol ar ôl tan tŷ
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 28 oed yn parhau yn yr ysbyty ar ôl cael ei hachub o dân mewn tŷ yn Rhondda Cynon Taf.
Cafodd nifer o bobl - gan gynnwys tri o blant - eu trin am effeithiau anadlu mwg yn dilyn y digwyddiad, medd Heddlu'r De.
Roedden nhw a gwasanaethau brys eraill wedi'u galw i Heol Tyntyla, Tonypandy am 16:45 ddydd Mawrth.
Bu'n rhaid i ymladdwyr tân achub y fenyw a oedd yn sownd y tu fewn.
Mae hi'n parhau mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe.
Cafodd dyn 26 oed ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad yn oriau mân bore Mercher ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae ymchwiliad gan yr heddlu i ddod o hyd i amgylchiadau'r digwyddiad yn parhau.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Sarah Lewis: "Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch yr hyn a achosodd y tân ac ar hyn o bryd ni allwn ddiystyru unrhyw beth.
"Mae gennym dîm o swyddogion sy'n gweithio'n galed i sefydlu beth ddigwyddodd."