Neil McEvoy 'wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd'
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad wedi dod i'r casgliad bod cynghorydd sir sy'n cael ei gyhuddo o fwlio staff cartref plant wedi torri cod ymddygiad Cyngor Caerdydd.
Roedd is-bwyllgor safonau a moeseg y cyngor yn ymchwilio i honiadau bod Neil McEvoy, sydd hefyd yn AC annibynnol, wedi ceisio torri ar draws cyfarfod therapi plentyn mewn gofal.
Fe wnaeth y panel ddyfarnu y dylai gael ei wahardd fel cynghorydd am bedwar mis.
Mae Mr McEvoy yn mynnu ei fod yn gweithredu ar ran teulu oedd yn ofni bod y plentyn wedi dioddef ymosodiad, ac yn dweud ei fod yn bwriadu apelio yn erbyn y dyfarniad.
Cododd cefnogwyr Mr McEvoy i'w traed gan weiddi ar aelodau'r pwyllgor pan gafodd y canlyniad ei gyhoeddi ac fe gafodd yr heddlu eu galw.
Dywedodd y cefnogwyr bod cynrychiolydd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus yn "warthus", gan gyhuddo'r panel o "lygredd" a'i fod fel "rheithgor llys cangarŵ".
Cawson nhw eu hebrwng o'r llys gan swyddogion diogelwch wedi dros bum munud o helynt.
Penderfynodd y panel bod Mr McEvoy wedi torri'r cod trwy ymddwyn yn fygythiol ar ddau achlysur - mewn galwad ffôn i'r cartref plant ac yn swyddfeydd cwmni gofal preifat.
Swyddfa'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus, Nick Bennett, oedd wedi cyfeirio'r achos at y cyngor ar ôl derbyn cwyn gan aelod o'r cyhoedd.
Dywedodd Mr Bennett ei fod yn croesawu casgliad y pwyllgor safonau bod Mr McEvoy wedi "bwlio, bygwth a methu â dangos parch at weithiwr gofal, a'i fod wedi dwyn anfri ar y cyngor a'i swydd fel cynghorydd ar ddau achlysur".
"Nid oedd yr achos o flaen y pwyllgor yn ymwneud â cham-drin plant honedig; roedd yn llwyr ynghylch ymddygiad y cynghorydd," meddai.
"Yn wir, fe ymchwiliodd yr heddlu i honiad o ymosod a dod i'r casgliad bod dim sail i weithredu."
Dywedodd Mr McEvoy y bydd yn apelio yn erbyn y penderfyniad "nid oherwydd mod i'n credu y gallai ennill ond i amlygu cam-drin plant".
"Yn y dyfodol bydd yn amlwg fy mod wedi gwneud fy ngorau," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2019