Trafodaethau newydd i ddatblygu gorsaf bŵer niwclear ym Môn

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
WylfaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ansicrwydd yn parhau am beth fydd dyfodol safle Wylfa yng ngogledd Môn

Mae Llywodraeth y DU yn cynnal trafodaethau cychwynnol gyda grwpiau allai fod â diddordeb adeiladu gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn, yn ôl uwch swyddog.

Fis Ionawr fe wnaeth cwmni Horizon dynnu 'nôl o gynlluniau i adeiladu Wylfa Newydd, gan nodi diffyg cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU fel un o'r rhesymau.

Fe ddaeth hynny wedi i Hitachi, sy'n berchen ar Horizon, dynnu eu cefnogaeth i'r cynllun gwerth £20bn ym Medi 2020.

Dywedodd Declan Burke o adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU fod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda chwmnïau arall sy'n cynnig datblygu gorsaf niwclear ym Môn er mwyn "deall y cynigion yn well".

Roedd Mr Burke, cyfarwyddwr prosiectau a datblygiadau niwclear gyda'r adran, yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Cymreig ddydd Iau.

'Cynigion i ddatblygu'r safle'

Dywedodd fod y trafodaethau "cychwynnol" yn cael eu cynnal gyda chwmnïau "sydd wedi gwneud cynigion i ddatblygu'r safle".

Ychwanegodd fod trafodaethau wedi'u cynnal â chonsortiwm o'r Unol Daleithiau oedd yn cynnwys cwmni peirianneg Bechtel, sy'n cynnig adeiladu gorsaf bŵer niwclear Westinghouse AP1000.

Maen nhw hefyd wedi trafod â chwmni Prydeinig Shearwater Energy, sydd â chynlluniau ar gyfer adweithyddion niwclear bychan a fferm wynt.

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Hitachi a Horizon dynnu eu cefnogaeth i ddatblygu Wylfa Newydd yn y flwyddyn ddiwethaf

Yn gynharach roedd Barbara Rusinko o gwmni Bechtel wedi disgrifio Ynys Môn fel "y safle gorau yn y DU i adeiladu gorsaf bŵer niwclear ar raddfa fawr".

Galwodd hi ar y Canghellor Rishi Sunak i ymrwymo i'r prosiect yn ei adolygiad gwariant am y tair blynedd nesaf pan fydd hynny'n cael ei gyhoeddi fis nesaf.

'Dibynnu ar y pris'

Dywedodd Simon Forster o gwmni Shearwater y byddai eu cynllun nhw yn rhatach a'u bod wedi cynnal trafodaethau lleol a chenedlaethol ynglŷn â'u cynnig.

Ond ychwanegodd eu bod wedi cadw hynny'n ddistaw am fod disgwyliadau wedi cael eu codi yn yr ardal ynglŷn â phrosiectau o'r fath yn y gorffennol.

"Mae'n dibynnu ar benderfyniadau ac yn dibynnu ar y pris," meddai wrth y pwyllgor.

Ychwanegodd Mr Forster bod angen i Hitachi, sy'n berchen ar y safle, a Llywodraeth y DU ddod ynghyd er mwyn gwneud penderfyniad ar ddyfodol y diwydiant ynni ar Ynys Môn.

'Y safle gorau yn y DU'

Mae Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie wedi rhoi croeso gofalus i'r newyddion, gan ddweud mai dyma'r "arwydd cyntaf tuag at ddatblygu ynni niwclear yn Wylfa ers i Horizon dynnu 'nôl".

"Fe wnes i gwrdd â Bechtel yn yr haf ac rwy'n gwybod eu bod nhw o ddifrif am ddatblygu'r safle, ond mae'n rhaid i'r amodau ariannol fod yn iawn iddyn nhw ac i'r trethdalwr," meddai.

"Mae un peth yn sicr - Wylfa Newydd ydy'r safle gorau yn y DU ar gyfer gorsaf bŵer niwclear ac mae'n rhaid iddo gyflawni'r potensial hynny."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod gan ynni niwclear ran "allweddol" i'w chwarae wrth symud i ffwrdd o danwydd ffosil.

Ychwanegodd bod y llywodraeth eisiau cymeradwyo "o leiaf un cynllun niwclear ar raddfa fawr" dros dymor y senedd.

"Rydym yn adnabod pwysigrwydd ein gallu i gynhyrchu ynni yng Nghymru a dros y DU a sicrhau gweithlu gyda sgiliau yn y sector."