Atal cynllun £180,000 am Jac yr Undeb yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd

Roedd bwriad i osod y faner ar gornel adeilad newydd Tŷ William Morgan
Mae Llywodraeth y DU wedi cael gwared â'u cynlluniau i arddangos baner Jac yr Undeb ar eu hadeilad newydd wyth llawr yng Nghaerdydd.
Fe benderfynodd Ysgrifennydd Cymru beidio bwrw ymlaen wedi amcangyfrif y byddai'r gost derfynol yn £180,000 i drethdalwyr.
Roedd swyddogion Cyngor Caerdydd wedi rhoi caniatâd cynllunio i'r arwydd finyl a fyddai'n mesur 32 metr o uchder a naw metr o led.
Roedd nifer wedi beirniadu'r syniad - gan gynnwys gwleidyddion.
Bydd dros 4,000 o weision sifil o nifer o adrannau Llywodraeth y DU yn gweithio yn Nhŷ William Morgan yng nghanol Caerdydd, gan gynnwys staff Swyddfa Cymru, gwasanaeth treth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi, Adran Masnach Rhyngwladol a Swyddfa'r Cabinet.
Mae'r adeilad hefyd yn cynnwys ystafell i gynnal cyfarfodydd cabinet Llywodraeth y DU.
Ymhlith y rhai a oedd yn feirniadol o benderfyniad Cyngor Caerdydd i ganiatáu y faner roedd aelodau Llafur y Senedd.
"Dwi wir yn credu nad ydynt yn deall," oedd geiriau y dirprwy weinidog Lee Waters AS.

Ar y pryd dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "Tŷ William Morgan yn adeilad sylweddol o ran Llywodraeth y DU, ac y cyntaf o'i fath yng Nghymru".
"Mae'n arferiad gyda safleoedd tebyg o eiddo Llywodraeth y DU, ledled y Deyrnas Unedig a'r byd, i ddangos Jac yr Undeb fel rhan o'm brandio," ychwanegodd.
Deallir y bydd baner yr Undeb a baner Cymru yn hedfan uwchben yr adeilad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018