Teulu cyn-filwr wedi'i 'sarhau' o orfod ad-dalu pensiwn
- Cyhoeddwyd
Mae mab cyn-filwr a frwydrodd yn Normandi yn dweud ei fod wedi'i "sarhau" gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ar ôl iddyn nhw ddweud wrth ei fam i dalu nôl £66 o bensiwn rhyfel.
Cafodd tad Chris Edwards, David, o'r Fenni, Sir Fynwy, ei saethu yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond fe ddychwelodd i'r llinell flaen i barhau i frwydro.
Dywedodd Mr Edwards nad oedd ei dad wedi sylweddoli ei fod yn gymwys i hawlio'r pensiwn am fwy na 40 blynedd ar ôl y rhyfel.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn y byddai'n "cysylltu'n uniongyrchol gyda'r rheiny y mae'r mater yn ei gynnwys".
Dywedodd Mr Edwards, o Aberddawan, Bro Morgannwg, bod y cais yn "anghredadwy."
Mewn llythyr at weddw Mr Edwards, Diane, dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod ganddyn nhw "ddyletswydd i amddiffyn cronfeydd cyhoeddus a bod pob gordaliad yn cael ei drin fel rywbeth adennilladwy".
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn deall yr angen i adennill cronfeydd cyhoeddus, ond cwestiynodd pam fod llythyr wedi cael ei anfon at weddw sy'n galaru.
Bu farw ei dad ym mis Tachwedd 2020 yn 95 oed.
"Aeth fy nhad i'r llinell flaen, cafodd ei saethu, dychwelodd nôl ac adferodd, dychwelodd i'r llinell flaen eto ac yna fe weithiodd am 30 mlynedd fel swyddog heddlu ar ôl y rhyfel," meddai.
Darganfyddodd ei dad ei fod yn gallu hawlio arian yn ôl dim ond ar ôl i Diane ddarllen cylchgrawn ar y pwnc mwy na 40 blynedd wedi'r rhyfel.
Dywedodd Mr Edwards ei fod yn amcangyfrif bod pensiwn o "dros £100,000" yn ddyledus i'w dad dros gyfnod o 44 blynedd.
"Ni chafodd hynny eu rhoi," meddai, "felly pam fyddech chi'n gofyn i fy nhad am tua £60 pan efallai y dylai wedi bod yn derbyn ei bensiwn anabledd rhyfel amser hir yn ôl?"
Gofynnwyd i'r Weinyddiaeth Amddiffyn pa ymdrechion gafodd eu gwneud i gysylltu â'r rhai a gafodd eu hanafu yn ystod eu gwasanaeth.
Dywedon nhw nad oes unrhyw gofnodion sy'n dangos y nifer a gafodd eu hanablu yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dywedon nhw eu bod nhw wedi cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy'n galaru drwy nifer o wasanaethau.
'Mae am foesoldeb'
Yn ôl llefarydd: "Rydyn ni'n edrych ar fanylion yr achos penodol yma a byddwn yn cysylltu'n uniongyrchol gyda'r rheiny y mae'r mater yn ei gynnwys."
Mae Mr Edwards yn gobeithio bydd codi'r mater yn gyhoeddus yn annog cyn-filwyr arall i hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddyn nhw.
"Byddai fy nhad i'n dweud, 'Dyw e ddim am yr arian, mae am foesoldeb y ffaith eich bod yn anfon pobl ifanc i wneud swydd anodd, brwnt, erchyll iawn'," meddai.
"Mae hwn yn genhedlaeth sy'n marw. Does dim llawer ohonyn nhw ar ôl.
"Tybed faint o bobl eraill gollodd allan ar y taliadau yma ar ôl y rhyfel, neu faint o deuluoedd arall sydd wedi cael eu holi."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2017