'Gallai rhestrau aros y GIG bara am nifer o flynyddoedd'
- Cyhoeddwyd
Mae yna rybudd y gallai gymryd blynyddoedd i drin yr holl gleifion sydd ar restrau aros y GIG.
Yn ôl Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes, does dim modd rhagweld pa bryd y bydd rhestrau aros yn dychwelyd i'r lefel yr oeddynt cyn y pandemig.
Mae'r conffederasiwn yn cynrychioli saith bwrdd iechyd Cymru, tair ymddiriedolaeth GIG a gwasanaethau gofal iechyd eraill.
Dywedodd Mr Hughes bod archwilwyr yn darogan y gallai gostio hyd at £300m y flwyddyn i ddelio ag achosion sydd wedi pentyrru, a dyw hynny ddim yn cynnwys achosion newydd.
Yr wythnos hon fe gofnododd adrannau brys ysbytai Cymru eu ffigyrau perfformiad gwaethaf erioed.
'Mae'r pwysau'n aruthrol'
Dywedodd Mr Hughes wrth raglen Sunday Supplement bod corff Archwilio Cymru "wedi amcangyfrif yr wythnos hon bod hi'n mynd i gostio unrhyw beth rhwng £150m a £300m y flwyddyn yn y dyfodol rhagweladwy i ddelio gyda'r llwyth wrth gefn".
Mae'r pwysau hynny, meddai, yn sgil "yr holl bethau nad oedden ni'n gallu eu gwneud yn ystod y pandemig, ar ben gallu trin pobl sy'n mynd yn sâl bob diwrnod".
Ychwanegodd: "Mae'r pwysau'n aruthrol. Mae'n broblem i'r system gyfan... mae pobl sy'n cyrraedd ag angen brys am ofal.
"Mae yna bobl mewn ysbytai, ac mae'r capasiti mewn ysbytai'n llai o lawer oherwydd yr holl fesurau atal a rheoli haint y mae'n rhaid i ni eu defnyddio.
"Yn union fel yn achos y gwasanaeth ambiwlans, dydy hi ddim fel roedd hi cyn Covid. Rhaid diheintio ambiwlansys yn drwyadl rhwng galwadau.
"Felly mae'r capasiti'n llai, mae nifer y bobl y gallwn eu gweld bob dydd mewn lleoliadau gofal sylfaenol, mewn ysbytai, yn llai.
"Mae pethau'n wirioneddol galed, ac rwy'n meddwl bod rhaid bod yn onest gyda'r cyhoedd. Mae'n mynd i barhau i fod yn galed am y dyfodol rhagweladwy.
"A'r hyn fyddwn i'n ei ddweud wrth wleidyddion yw, rydym yn cael cydnabyddiaeth gan y gweinidog iechyd pa mor ddifrifol mae pethau. Rydym yn siarad gyda gwleidyddion o bob plaid... mae pethau'n mynd i fod yn heriol ofnadwy, nid dim ond y mis hwn, y flwyddyn hon, ond am nifer o flynyddoedd i ddod."
Roedd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan eisoes wedi rhybuddio ym mis Mehefin bod hi'n "debygol y bydd hi'n cymryd tymor cyfan y Senedd yma [pum mlynedd] i ni ddychwelyd i lefelau cyn y pandemig".
Yn dilyn cyhoeddi'r amseroedd aros gwaethaf erioed yn adrannau brys ysbytai Cymru yr wythnos ddiwethaf, rhybuddiodd Ms Morgan bod staff iechyd Cymru'n wynebu'r gaeaf caletaf erioed wrth i'r pwysau ddwysáu o bob cyfeiriad.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2021
- Cyhoeddwyd23 Medi 2021