Adolygiad i 'ddysgu gwersi' o achosion diciâu Llwynhendy

  • Cyhoeddwyd
Joiners Arms, LlwynhendyFfynhonnell y llun, Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd pobl allai fod wedi dod i gysylltiad â TB yn nhafarn y Joiners Arms rhwng 2005 a 2018 eu hannog i gael prawf

Bydd adolygiad allanol i'r achosion o dwbercwlosis (TB) yn ardal Llwynhendy, Sir Gâr, meddai Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bu farw Margaret Pegler, 64 oed o Lwynhendy, yn 2018, bum niwrnod wedi iddi gael gwybod bod y clefyd arni.

Bwriad yr adolygiad yw dysgu gwersi wedi i nifer o bobl yn yr ardal gael eu heffeithio gan y diciâu rhwng 2005 a 2018.

Bydd yr adolygiad yn trafod yn benodol a oedd yr ymateb i'r achosion niferus ers 2010 wedi'u cynnal yn unol â'r canllawiau arfer gorau.

Cafodd dros 2,000 o bobl eu sgrinio fel rhan o ymarfer sgrinio a gynhaliwyd yn 2019.

Yn sgil y sgrinio cafodd 31 o achosion gweithredol eu canfod a dros 250 o achosion o TB cudd - dywed Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r Bwrdd Iechyd bod pawb wedi'u trin "fel y bo'n briodol".

Mae disgwyl i ganfyddiadau'r adolygiad gael eu cyhoeddi tua mis Mai 2022, gydag adroddiad interim yn cael ei ryddhau ym mis Chwefror 2022.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ysgyfaint wedi'i heffeithio gan TB

Bydd yr adolygiad yn cael ei gadeirio gan yr Athro Mike Morgan, cyn-gyfarwyddwr clinigol cenedlaethol GIG Lloegr ar gyfer clefydau anadlol, a'r bwriad yw astudio achosion ble'r oedd TB wedi cyfrannu at farwolaeth.

Yn ogystal, bydd achosion unigolion sydd wedi datblygu TB gweithredol yn cael eu hadolygu.

Fe wnaeth yr achosion "beri cryn bryder i gymuned Llwynhendy", meddai Dr Fu-Meng Khaw o Iechyd Cyhoeddus Cymru, "yn enwedig i deulu'r claf a fu farw yn anffodus".

Ychwanegodd mai'r gobaith yw "sicrhau bod yr ymateb i'r brigiad o achosion mor gadarn â phosibl, ac i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ar gyfer unrhyw achosion o TB yn y dyfodol".

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda y byddai swyddogion yn cysylltu â phobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r brigiad o achosion, a bydd cyfathrebu pellach yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf mewn perthynas â'r adolygiad.