Galw am gydnabod godinebu wrth i gyplau hoyw gael ysgariad

  • Cyhoeddwyd
Menywod yn ffraeoFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae galwadau am gydnabod godinebu (adultery) pan fydd cyplau hoyw yn gwahanu.

Roedd mam i ddau o blant o Gaerdydd wedi "drysu" o wybod nad oedd anffyddlondeb yn sail i ddod â'i phartneriaeth sifil i ben.

Dywedodd y dylai cydraddoldeb fod yn berthnasol ym "mhob agwedd yn y system gyfreithiol".

Dywed y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd y Mesur Ysgariad newydd a ddaw i rym ym mis Ebrill yn atal pob cwpl rhag "y gêm o roi bai".

Disgrifiodd Amy, nid ei henw iawn, ddiwedd ei pherthynas fel un "dinistriol".

Gan gredu bod ei gwraig yn cael perthynas, dywedodd bod ei hymddygiad ei hun wedi newid wrth iddi edrych ar apiau lleoliad dro ar ôl tro yn y gobaith o'i dal.

"Mae'r cyfan mor ystrydebol... yn sydyn iawn bu'n rhaid iddi gael ei ffôn gyda hi trwy'r amser, gan fynd ag ef i'r ystafell ymolchi gyda hi... roedd 'na fwy o gyfarfodydd gyda'r nos, penwythnosau i ffwrdd... ac yna, roedd yr un enw yn dod i fyny mewn sgwrs trwy'r amser," ychwanegodd.

'Cwbl annheg - ond dyna'r drefn'

Dywedodd Amy wrth raglen BBC Wales Live nad oedd ganddi unrhyw syniad bod y diffiniad cyfreithiol o odineb yn cydnabod cyfathrach rywiol rhwng dau berson o'r rhyw arall yn unig.

Ychwanegodd fod un cyfreithiwr ysgariad wedi dweud wrthi ei fod yn gwbl annheg ond dyna'r ffordd mae'r system yn gweithio.

Yn lle hynny, roedd yn rhaid i Amy wneud cais i ddod â'r berthynas i ben oherwydd ymddygiad afresymol, proses a oedd yn anhygoel o anodd iddi.

"Ni allaf helpu ond tybed a fyddwn wedi trin pethau'n wahanol pe bawn wedi gwybod na allwn fod wedi defnyddio godineb beth bynnag?" ychwanegodd.

Mae hi nawr eisiau gweld yr un cynnydd ag a gafwyd ar gydraddoldeb priodasol yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn cyfraith ysgariad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y cyfreithiwr teulu, Elizabeth Saxby, fod y diffiniad cyfreithiol o odinebu o 1973 ac "mae'n debyg nad yw'n addas at y diben bellach".

"Rydyn ni wedi rhoi'r opsiwn o bartneriaeth sifil i bawb, a nawr gall pawb briodi waeth beth yw cyfansoddiad y cwpl - felly mae'n swnio ychydig bach yn rhyfedd nad yw'r opsiynau ar ysgariad a gwahanu wedi'u diweddaru."

Ychwanegodd y cyfreithiwr y gall newid y gyfraith fod yn broses anhygoel o araf a bod ymdrechion wedi canolbwyntio ar symud tuag at ysgariad-dim-bai.

Dywedodd ei bod yn deall rhwystredigaethau cyplau o'r un rhyw a'i bod yn gobeithio y byddai'r newidiadau tuag at ddim bai yn y gwanwyn nesaf o fudd i bawb.

Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder y bydd y Mesur Ysgariad newydd yn arbed yr angen i roi bai ar gyplau sy'n gwahanu.

Yn lle hynny, bydd priod neu gwpl yn gallu gwneud cais am ysgariad trwy wneud datganiad o ddadansoddiad na ellir ei adfer.

Wales Live, BBC One Wales am 22:30 ddydd Mercher

Pynciau cysylltiedig