Gêm Wrecsam yn erbyn Aldershot yn cael ei gohirio oherwydd glaw

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhaid gohirio'r gêm ar ôl i'r cae lenwi gyda dŵr

Siomedig oedd chwaraewyr Wrecsam ar ôl i'w gêm yn erbyn Aldershot gael ei gohirio yn yr ail hanner oherwydd glaw trwm.

Roedden nhw ar y blaen gyda'r sgôr yn 2-0 wedi i Jake Hyde a Paul Mullins sgorio gôl yr un yn yr hanner cyntaf.

Ond fe benderfynodd y dyfarnwr i ohirio'r gêm 52 munud mewn i'r ail hanner wrth i byllau mawr o ddŵr lenwi ar y cae.

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Waynne Phillips

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Waynne Phillips

Ceisiodd chwaraewyr Wrecsam i ysgubo'r dŵr oddi ar y cae, ond fe waethygodd y tywydd.

Bydd gêm y Gynghrair Genedlaethol nawr yn cael ei chwarae ar ddyddiad arall yn hwyrach yn y tymor.