Cyhoeddi enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
Paul WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae beiciwr modur "ysbrydoledig" bu farw mewn gwrthdrawiad ddydd Gwener wedi cael ei enwi fel Paul "Walter" Watkins.

Bu farw Mr Watkins, 60 o Draethmelyn, Port Talbot yn lleoliad y gwrthdrawiad rhwng cylchfan Afan Way a chylchfan Parc Ynni Baglan ar yr A4241 ym Mhort Talbot ddydd Gwener.

Cafodd Mr Watkins, a oedd yn beiriannydd beiciau modur, ei ddisgrifio fel dyn a oedd yn "caru" beiciau modur ac yn cael ei "barchu'n fawr" am ei waith fel peiriannydd.

"Fe oedd y peiriannydd beic gorau a'r ffrind gorau gallech chi erioed ofyn am," meddai ei deulu.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.

Pynciau cysylltiedig