Dyn wedi llofruddio'i fam a byw gyda'i chorff am ddeufis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 43 oed wedi cael dedfryd o garchar am oes am lofruddio ei fam yn eu cartref yn Sir Benfro.
Bydd yn rhaid i Dale Morgan, oedd yn unig blentyn, dreulio o leiaf 21 mlynedd a hanner dan glo wedi'r ymosodiad "hir a milain" ar Judith Rhead, oedd yn 68 oed.
Cafwyd hyd i'w chorff mewn eiddo ar Stryd y Farchnad yn Noc Penfro brynhawn Sadwrn, 20 Chwefror.
Clywodd Llys Y Goron Abertawe bod Morgan wedi taro ei phen gyda morthwyl 14 o weithiau yn fuan ar ôl symud yn ôl i fyw gyda hi yn Rhagfyr 2020.
Fe gadwodd ei chorff yn ei hystafell wely waedlyd nes i'r heddlu ei ddarganfod ddeufis yn ddiweddarach.
Roedd yn penlinio ar y llawr yn erbyn y gwely ac roedd bag plastig wedi ei glymu dros ei phen gyda chebl trydanol.
Yn yr wythnosau wedi'r llofruddiaeth, fe ddywedodd wrth gyfeillion a chymdogion Mrs Rhead bod ei fam yn hunan-ynysu oherwydd Covid, yn sâl neu yn yr ysbyty.
Dywedodd yr erlyniad wrth y llys bod Mrs Rhead wedi ysgrifennu nodyn yn awgrymu amheuon bod ei mab yn dweud celwydd wrthi am faterion yn ymwneud â'i waith, arian a chyffuriau.
Ond "y diffynnydd yn unig sy'n gwybod" a oedd hi wedi ei herio ai peidio cyn iddo ei ladd.
Mae cofnodion banc yn dangos fod Morgan wedi trosglwyddo cyfanswm o £2,878 o gyfrif ei fam i'w gyfrif ei hun rhwng Rhagfyr 3 a Chwefror 11.
Plediodd Morgan yn euog i gyhuddiad o lofruddiaeth mewn gwrandawiad ym mis Awst.
Mewn datganiad yn amlygu effaith y farwolaeth, dywedodd teulu Mrs Rhead ei bod yn berson "addfwyn" ac yn uchel ei pharch yn y gymuned".
Ychwanegodd y teulu: "Roedd Judith yn caru Dale ac roedd wedi achub ei gam gydol ei fywyd. Fe wnaeth ei bradychu yn y ffordd fwyaf arswydus."
"Mae'r hyn a wnaeth Dale i Judith yn gythreulig. Wnawn ni byth ddeall pam wnaeth e hyn... bydd ar ein meddyliau weddill ein bywydau.
'Roedd hi yn eich addoli'
Dywedodd y Barnwr Paul Thomas QC wrth Morgan ei fod wedi cynnal "ymosodiad ffyrnig a maith ar fenyw ddiamddiffyn - eich mam" ac mai "chi, i bob pwrpas, oedd ei bywyd".
Roedd Mrs Rhead, meddai yn ei "addoli", wedi achub ei gam "hyd yn oed wedi i chi ddwyn oddi arni yn y gorffennol" a cheisio ei helpu gyda'i broblemau.
"Roedd hi'n poeni eich bod yn camddefnyddio sylweddau, ac yn gadael i chi fyw gyda hi er gwaethaf y tarfu a'r pryder y gwnaeth eich presenoldeb ei achosi iddi, yn ddiamau."
Wrth ddedfrydu, dywedodd wrth y diffynnydd: "Byddwch chi yn eich chwedegau canol cyn y gallwch chi ymgeisio i gael eich rhyddhau... fe allwch chi orfod aros llawer o flynyddoedd yn rhagor yn y carchar tu hwnt i hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2021