'Heddlu wedi cynorthwyo pobl o'u tai yn anghyfreithlon'

  • Cyhoeddwyd
Person digartref yn eistedd ar y strydFfynhonnell y llun, SOPA Images

Mae heddluoedd Cymru wedi bod yn cynorthwyo tenantiaid allan o'u tai yn anghyfreithlon yn ystod y pandemig, yn ôl Shelter Cymru.

Clywodd Pwyllgor Cyfle Cyfartal y Senedd fod yr heddlu wedi bod yn symud tenantiaid allan o'u cartrefi'n anghyfreithlon "ym mhedwar ardal plismona Cymru".

Dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Jenny Rathbone fod y fath yna o weithred yn "tanseilio'r gyfraith rydyn ni'n barod wedi sefydlu yng Nghymru".

Daeth gwaharddiad ar orchymyn tenantiaid i adael eu cartrefi, dolen allanol i rym yng Nghymru ym mis Rhagfyr y llynedd "i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi tenantiaid" yn sgil y pandemig.

Cafodd ei ymestyn gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Mawrth i ddechrau, cyn dod i ben ym mis Mehefin.

Cafodd cyfnod rhybudd o chwe mis ei weithredu yn ei le i denantiaid sy'n wynebu cael eu gorchymyn i adael.

Yn eu cyflwyniad ysgrifenedig i'r Pwyllgor, dywedodd Shelter Cymru ei bod hi'n "hollbwysig nad yw gwasanaethau heddlu yn cyfrannu at ddyled ychwanegol ac i ddigartrefedd yng Nghymru drwy gynorthwyo troi pobl allan o'u tai yn anghyfreithlon".

Yn rhoi tystiolaeth i ASau, dywedodd Rob Simkins, o'r elusen, fod pobl sy'n rhentu wedi cael eu "troi allan yn anghyfreithlon" a'u "herlid yn weithredol o'u cartrefi" gan rai perchnogion yn ystod y pandemig.

"Gwelsom ni eitha' lot o geisiadau i gyflwyno gorchmynion Adran 21 neu orchmynion troi allan heb fai yn ystod y pandemig, yn enwedig pan oedd gohiriad ar droi pobl allan.

"Rydyn ni wedi gweld achosion o bobl yn dod atom ni gyda rhybuddion o ddeufis a llai na chwe mis.

"P'un ai os mai oherwydd anwybodaeth perchennog neu asiant tai, neu oherwydd bod rhywun yn ceisio chwarae'r system yn y gobaith na fydd tenantiaid yn gwybod am eu hawliau neu na fyddan nhw'n estyn allan am gefnogaeth, mae'n wahanol o un achos i'r llall."

Achosion ar draws Cymru

Dywedodd Mr Simkins fod Shelter Cymru wedi "ysgrifennu at holl Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd a Phrif-Gwnstabliaid pob llu oherwydd nad oedd hwn yn achos unigryw - mae yna achosion o hwn yn digwydd ar draws holl ranbarthau'r heddlu.

"Newn ni weld sut mae hwn yn datblygu ond mae'r ymgysylltiad cyn belled wedi bod yn bositif."

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru a'r pedwar heddlu yng Nghymru.