Cynnydd anferth mewn digartrefedd yn y pandemig

  • Cyhoeddwyd
digartrefedd

Mae cynnydd "digynsail" wedi bod yn nifer y bobl ifanc sy'n wynebu digartrefedd yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn ôl elusen.

Dywedodd Llamau eu bod eisoes wedi derbyn mwy o alwadau eleni nag y gwnaethon nhw drwy gydol y llynedd.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi sicrhau bod £24m ar gael i gefnogi elusennau.

Pryderon iechyd

Roedd Richard (nid ei enw go iawn) yn aros gyda'i fodryb ac yna gyda'i chwaer yng Nghasnewydd pan ddaeth y cyhoeddiad am y cyfyngiadau i ddelio gyda Covid-19 ym mis Mawrth.

Penderfynodd y llanc 18 oed adael rhag ofn iddo heintio plant yn y tŷ petai'n dod â'r feirws nôl adref o'r gwaith.

"Nes i ddim cymryd e o ddifri' ar y dechre," meddai. "Ond pan ddaeth yn amlwg bod mwy o achosion yn agos i gatre' nes i feddwl nad oeddwn i eisiau cymryd risg gyda iechyd fy nghyfnither."

Cysylltodd â Llamau a llwyddodd yr elusen ddod o hyd i ystafell iddo mewn tŷ y mae'n ei rannu gyda phobl eraill.

Dywedodd Frances Beecher, prif weithredwr Llamau, sy'n cyflogi tua 500 o bobl ledled Cymru, fod yr elusen yn delio gyda mwy o bobl ifanc a oedd, fel Richard, yn cysgu yn stafelloedd byw eu ffrindiau neu deulu, ond oedd yn methu aros yno bellach oherwydd pryderon am iechyd.

Hefyd, roedd rhai pobl ifanc oedd yn byw gyda'u rhieni wedi cael eu gorfodi i adael.

Dywedodd fod yr elusen er enghraifft wedi helpu un fenyw ifanc oedd yn byw gyda'i mam sy'n gaeth i heroin.

Heriau ariannol

Dywedodd Ms Beecher fod yr elusen wedi ehangu eu gwasanaethau ar adeg pan maen nhw'n wynebu diffyg ariannol o £700,000 - yn rhannol achos bod llai o gyfleoedd i godi arian dan amgylchiadau'r pandemig.

"Mae'n anodd iawn ceisio gweithredu gwasanaeth 24 awr fel elusen heb y gallu i godi arian," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi sicrhau bod grantiau ar gael i elusennau yn ogystal â help tuag at gostau trethi busnes.

Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod ac yn cymeradwyo'r cyfraniad enfawr y mae'r trydydd sector yn ei wneud i les Cymru, ei phobl a'i chymunedau."