Clip o'r Archif: Y Cynhaeaf gan Dic Jones
- Cyhoeddwyd
I nodi Diwrnod Cenedlaethol Barddoniaeth, dyma glip o'r archif o Dic Jones ar ei fferm, Hendre, yn adrodd rhannau o'i awdl, Y Cynhaeaf.
Ymddangosodd y clip yn wreiddiol ar y rhaglen Dal Pen Rheswm rhwng 1966 a 1969. Dyma'r awdl fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan a'r cylch yn 1966.
Derbynidd Dic feirniaedaeth clodwiw gan y 3 beirniad: Syr Thomas H. Parry-Williams, D. J. Davies a Thomas Parry. Meddai Thomas Parry yn ei feirniadaeth:
"Os bu rhywun erioed yn haeddu cadair ac arian a chlod, y mae Bryn Coed yn eu haeddu. Ond ei wobr bennaf fydd gwybod ei fod wedi ysgrifennu cerdd sy'n gampwaith, a boed i ninnau oll ddiolch iddo yn wylaidd amdani - ac erfyn am ragor o'i chyffelyb."
Hefyd o ddiddordeb: