Emynwyr, rapwyr ac artistiaid yn ysbrydoli Bardd Plant Cymru

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Casi Wyn fydd Bardd Plant Cymru am y ddwy flynedd nesaf

Mae bod yn gerddor ac yn fardd yn ddau beth gwbwl unedig yn ôl Bardd Plant Cymru, Casi Wyn.

Daeth y cyhoeddidad ddydd Iau mai Casi fydd yn olynu Gruffudd Owen i'r rôl am y ddwy flynedd nesaf.

Mae Casi Wyn yn enw cyfarwydd fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae hi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol.

Wrth restru ei hoff feirdd mae Casi yn cynnwys rapwyr fel, Kendrick Lemar, yr Emynydd Ann Griffiths a'r cerddor a'r Prifardd Twm Morys.

Dywedodd Casi ei bod hi'n edrych ymlaen at gael"'tanio dychymyg" plant Cymru ac at fod yn "offeryn sy'n anog straeon a'r hyn sydd ar eu meddyliau nhw."

Mae hi hefyd yn awyddus i wau'r thema byd natur drwy'r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl: "Mae'r byd yn newid ar gyfradd na welson ni erioed mo'i debyg - bod yn agored i syniadau a ffyrdd newydd o brosesu profiadau ydi'r nod", meddai.

Mae 16 person wedi bod yn Fardd Plant Cymru cyn Casi Wyn:

2000 - Myrddin ap Dafydd

2001 - Mei Mac (Meirion MacIntyre Huws)

2002-2003 - Menna Elfyn

2003-2004 - Ceri Wyn Jones

2004-2005 - Tudur Dylan Jones

2005-2006 - Mererid Hopwood

2006-2007 - Gwyneth Glyn

2007-2008 - Caryl Parry Jones

2008-2009 - Ifor ap Glyn

2009-2010 - Twm Morys

2010-2011 - Dewi 'Pws' Morris

2011-2013 - Eurig Salisbury

2013-2015 - Aneirin Karadog

2015-2017 - Anni Llŷn

2017-2019 - Casia Wiliam

2019-2021 - Gruffudd Eifion Owen