Pas Covid: 'Aros byth a hefyd' i addasu technoleg i Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn "aros byth a hefyd" i Lywodraeth y DU addasu technoleg er mwyn Cymru a'r Gymraeg, medd gweinidog iechyd Cymru.
Dywedodd Eluned Morgan eu bod "yn ddibynnol i raddau helaeth ar y sefyllfa yn Lloegr" er mwyn cyflwyno pasys Covid dwyieithog.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno 'pas Covid' i fynychu rhai digwyddiadau yn golygu, o 11 Hydref, bydd yn rhaid i unrhyw un dros 18 sydd am fynd i glwb nos neu ddigwyddiad torfol ddangos eu bod nhw un ai wedi cael eu brechu'n llawn, neu wedi cael prawf llif unffordd (LFT) negyddol o fewn 48 awr.
Er mwyn cael pas Covid y GIG rhaid defnyddio gwefan nhs.uk, sy'n eich galluogi i greu pas Covid drwy ddefnyddio ffôn clyfar neu gyfrifiadur.
Nid yw pobl sy'n byw yng Nghymru yn medru cael y pas drwy ap y GIG oherwydd dim ond yn Lloegr y mae'n ddilys.
Pas yn y Gymraeg?
Er mwyn cael copi dwyieithog o'r pas, rhaid gwneud cais am fersiwn bapur trwy ffonio 0300 303 5667 rhwng 09:00 a 17:00 saith diwrnod yr wythnos.
Gall gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i'r dystysgrif gyrraedd, dolen allanol.
Yn y Senedd, dywedodd Siân Gwenllian, AS Plaid Cymru sy'n cynrychioli Arfon: "Ers cyflwyno'r pas cyn cychwyn yr haf ar gyfer teithio rhyngwladol, mae Plaid Cymru ac eraill wedi codi'r mater o'r gallu i gael mynediad at y system drwy gyfwng y Gymraeg.
"Felly, gaf i ofyn i chi pa bryd fydd y gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ar gael i dderbyn pas Covid?"
Atebodd Eluned Morgan, "O ran y system trwy gyfrwng y Gymraeg, wrth gwrs, ry'n ni yn ddibynnol i raddau helaeth ar y sefyllfa yn Lloegr. Nhw sydd gyda lot o'r technegau o ran sut mae'r apps ac ati yn gweithio.
"Ry'n ni'n gwybod, er enghraifft, fod y system ar hyn o bryd os ŷ'ch chi'n lawr lwytho ap sydd yn dweud os ydych chi yn gallu cael pas Covid, ar hyn o bryd yn dweud Lloegr. Erbyn diwedd y mis, mi fydd e'n dweud Cymru hefyd.
"Felly, ry'n ni'n aros byth a hefyd iddyn nhw symud yn Lloegr. Nhw sy'n gorfod gwneud y newidiadau yma ar ein rhan ni."
'Aros am ddatrysiad llawn'
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiynydd y Gymraeg wrth BBC Cymru: 'Rydym yn ymwybodol nad yw'r pàs ar gael yn electronig yn y Gymraeg ar hyn o bryd, ac wedi ysgrifennu at y llywodraeth am ragor o wybodaeth.
"Rydym yn aros am ddatrysiad llawn gan Lywodraeth Cymru i hyn.'
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddarparu fersiynau dwyieithog o'r pas NHS.UK a NHS Covid ac rydym yn deall y bydd ar gael yn fuan."
Gofynnwyd am ymateb gan adran iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
Pwy sydd angen pas Covid?
O 11 Hydref ymlaen, bydd angen i bobl dros 18 oed ddangos Pas Covid y GIG i fynd i'r canlynol:
Clybiau nos;
Digwyddiadau dan do heb seddi ar gyfer mwy na 500 o bobl, fel cyngherddau neu gonfensiynau;
Digwyddiadau awyr agored heb seddi ar gyfer mwy na 4,000 o bobl;
Unrhyw leoliad neu ddigwyddiad sy'n cynnwys mwy na 10,000 o bobl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021
- Cyhoeddwyd17 Medi 2021