Cyhoeddi enw Bardd Plant Cymru
- Cyhoeddwyd
Y gantores, cyfansoddwraig ac awdur, Casi Wyn fydd Bardd Plant Cymru ar gyfer 2021-2023.
Cafodd ei phenodi ar ôl i Llenyddiaeth Cymru wahodd ceisiadau ym mis Mai 2021 am y rôl - y tro cyntaf i Fardd Plant Cymru gael ei ddewis drwy'r broses honno.
Ers ei sefydlu yn 2000, mae 16 bardd wedi treulio dwy flynedd yr un fel Bardd Plant Cymru, gan gynnal gweithdai a gweithgareddau a defnyddio llenyddiaeth i annog creadigrwydd a meithrin hunanhyder a sgiliau cyfathrebu ymysg plant.
Daw'r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Barddoniaeth, sy'n ddathliad blynyddol o farddoniaeth a phopeth barddonol.
'Barod iawn i ddechrau arni!'
Mae Casi Wyn yn enw cyfarwydd fel cantores a chyfansoddwraig o ardal Bangor. Mae hi hefyd yn un o sefydlwyr gwasg annibynnol a chylchgrawn Codi Pais, sydd yn annog lleisiau newydd ac amrywiol.
Yn 2021 fe ryddhaodd lyfrau dwyieithog cerddorol i blant, Tonnau Cariad a Dawns y Ceirw. Cafodd ei ffilm fer gerddorol animeiddiedig Dawns y Ceirw ei dangos ar S4C ar noswyl Nadolig 2020.
Wrth ddechrau ar ei gwaith dywedodd Casi Wyn ei bod yn edrych ymlaen yn fawr at danio dychymyg plant a phobl ifanc Cymru drwy eiriau ac alawon, gan ychwanegu bod dathlu amrywiaeth Cymru a phontio cymunedau drwy hud barddoniaeth yn flaenoriaeth ganddi.
Mae hi hefyd yn awyddus i wau'r thema byd natur drwy'r gwaith yn ystod ei chyfnod yn y rôl: "Mae'r byd yn newid ar gyfradd na welson ni erioed mo'i debyg - bod yn agored i syniadau a ffyrdd newydd o brosesu profiadau ydi'r nod", meddai.
"Mi gaiff y plant fy arwain i yn hynny o beth. Rwy'n barod iawn i ddechrau arni!"
Mae prosiect Bardd Plant Cymru yn cael ei reoli gan Llenyddiaeth Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.
Bydd Casi Wyn yn olynu'r Prifardd Gruffudd Owen fel Bardd Plant Cymru, ac yn ogystal ag ymweliadau ysgolion, bydd ei gweithgareddau yn cynnwys prosiectau cymunedol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyfrannu at Siarter Iaith Llywodraeth Cymru, a chyfansoddi cerddi amrywiol i nodi digwyddiadau ac ymgyrchoedd sydd o ddiddordeb i blant a phobl ifanc.
Cyhoeddwyd hefyd mai'r awdur ac actor, Connor Allen sydd wedi ei benodi yn 'Children's Laureate Wales' 2021-2023, gyda'r ddau brosiect yn rhedeg ochr yn ochr.
Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: "Pan mae plentyn yn cyfarfod awdur, boed hynny yn y dosbarth, mewn gŵyl, neu dros Zoom, maent yn cael eu cyflwyno i fyd o greadigrwydd, ac mae buddion y profiadau hyn yn niferus a phellgyrhaeddol.
"Fel dau fardd sy'n berfformwyr naturiol yn ogystal â seiri geiriau, rwy'n sicr y bydd Casi Wyn a Connor Allen yn ysbrydoli'n plant a'n pobl ifanc archwilio eu lleisiau creadigol eu hunain. Mae gan ein cenedlaethau iau bethau pwysig i'w dweud, ac rwy'n edrych ymlaen at eu clywed."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2020
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2020