Ateb y Galw: Shelley Musker Turner

  • Cyhoeddwyd
Shelley Musker TurnerFfynhonnell y llun, Shelley Musker Turner

Y delynores Shelley Musker Turner sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan ei chwaer Judith Musker Turner yr wythnos diwethaf.

Ganwyd a magwyd Shelley yn Ffair Rhos, Ceredigion. Mae hi'n gweithio fel cyfrwywr (sadler) ar gyfer y diwydiant ffilm. Pan nad yw hi'n gwneud arfwisg ceffylau ar gyfer ffilmiau mae hi'n perfformio ar y delyn Geltaidd gyda'r band gwerin Calan.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Un o fy atgofion cyntaf yw bod ar gwch yn Zacynthos pan oeddwn i'n ddwy a hanner oed ac wir eisiau mynd i flaen y cwch lle roedd grŵp o ddynion yn chwilio am grwbanod môr. O'n i ddim yn cael mynd oherwydd roeddwn i'n rhy fach, oedd yn rhwystredig dros ben! Nid yw'r rhwystredigaeth o fod yn rhy fach wedi newid!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Mae tiroedd Hafod yn gorfod bod fy hoff le yng Nghymru. Nid yw Hafod yn bell o le ces i fy magu yn Ffair Rhos yng Ngheredigion, felly mae'n teimlo fel cartref i mi ac mae'n le gogoneddus gyda hanes trist, iasol y gallwch chi ei theimlo o'r tir yn fawr iawn.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dawnsio'r hwla ar y llwyfan yng Ngŵyl Werin Amwythig yn ddiweddar gyda Pendevig. Roedd yn eiliad o wiriondeb llwyr heb ei gynllunio ond mae bob amser yn gwneud i mi wenu wrth feddwl amdano, fel y mae'r gig epig honno yn ei gyfanrwydd yn gwneud hefyd!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Cwpl o flynyddoedd yn ôl, penderfynais y byddai'n syniad da cael photoshoot ar fy ngheffyl gyda fy nhelyn. Mae fy ngheffyl yn cael ei gadw yng Nghanolfan Farchogaeth Rheidol ac roedd yn digwydd bod yn brynhawn Sadwrn prysur.

Wnes i wisgo lan a rhoi colur ymlaen, a mynd â fo allan yn y goedwig. Mi es i ar ei gefn, yna pasiwyd y delyn i fyny ataf, a dychrynodd e'n llwyr. Roedd yn rhaid i mi daflu'r delyn ar y llawr cyn syrthio ar fy wyneb yn y mwd fy hun, ac yna fe drodd y ceffyl ar ei sawdl a charlamu i ffwrdd. Dwi'n cofio'n eglur iawn gwneud walk of shame i ddod o hyd i fy ngheffyl yn ôl ar yr iard gyda chynulleidfa o gwsmeriaid y Rheidol!

Ffynhonnell y llun, Felix Cannadam
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r photoshoot (cyn i Shelley gwympo)

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Y tro diwethaf i mi ollwng deigryn, dim ond oherwydd fy mod i wedi fy llethu gan bŵer cerddoriaeth, oedd ar ôl gig wnes i yn Galeri yng Nghaernarfon yn ddiweddar lle chwaraeodd Patrick Rimes unawd pibau i aelod o'r gynulleidfa â nam ar ei glyw a oedd eisiau dawnsio. Dwi'n credu roedd pawb a oedd yno'n teimlo llawenydd pur. Roedd hi'n foment mor bur, hyfryd sydd wedi gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig yw cerddoriaeth.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Tanbaid, bach, pengoch.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Syrthio i gysgu yn ystod ffilmiau. Fel rheol, dwi'n para tua 10 munud.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Byddai'n anodd cael noson well na'r noson y gwnaeth Calan berfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd ar Ddydd Gŵyl Dewi!

Ffynhonnell y llun, Shelley Musker Turner
Disgrifiad o’r llun,

Corws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn Neuadd Dewi Sant

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Rhaid i Human Traffic fod fy hoff ffilm, nid oes ffilm sy'n codi'r calon yn fwy na hynny!

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Byddai fy teenage self yn flin iawn pe na bawn i'n dweud Matthew Bellamy, prif ganwr Muse. Roedd gen i obsesiwn llwyr gyda fe yn fy arddegau cynnar!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Efallai nad yw pobl yn gwybod fy mod i'n gyfrwywr sy'n arbenigo mewn cyfrwyaeth ar gyfer ffilmiau. Dwi'n gweithio i gwmni o'r enw Leather Designs (ewch i sbïo ar Instagram) ac rydyn ni wedi gwneud arfwisg ceffylau ar gyfer nifer o ffilmiau mawr fel Star Wars, Wonder Woman a Mary Queen of Scots.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Byddwn i'n mynd i weld fy chwaer Judith, coginio cinio rost mawr iddi hi, gwneud coctels a gwylio cyfres gyfan. Perffaith!

Ffynhonnell y llun, Judith Musker Turner
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Shelley yn canu'r delyn gan ei chwaer

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Ni alla'i ddisgrifio pa mor annwyl oedd y bod bach blewog hon i mi ac rwy'n gweld ei heisiau gymaint. Roedd hi'n rhan o fy mywyd o 4 oed, a hyd yn oed ar ôl i mi adael cartref a ddim wedi ei gweld hi am efallai 6 mis ar y tro, roedd hi'n gwybod mai fi oedd ei bod dynol hi. Duw, dyn ni ddim yn haeddu anifeiliaid!

Ffynhonnell y llun, Shelley Musker Turner
Disgrifiad o’r llun,

Cath fach Shelley

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Byddwn i'n falch o fod yn Jimi Hendrix ym 1970 yng Ngŵyl Ynys Wyth pan berfformiodd i un o'r gynulleidfaoedd mwyaf a gofnodwyd o 600,000 - 700,000 o bobl!

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sam Petersen.

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw