Teyrnged i dad fu farw mewn gwrthdrawiad beic modur
- Cyhoeddwyd
Mae teulu tad o Lanrwst fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur wedi rhoi teyrnged iddo.
Bu farw Michael Peel, 46, ar ôl i'w feic modur daro beic modur arall ar y A487 yng Nghorris, Gwynedd am tua 12:20 ar ddydd Sul.
Cafodd criwiau ambiwlans, gan gynnwys ambiwlans awyr, eu galw i'r digwyddiad ond bu farw Mr Peel yn y fan a'r lle.
Dywedodd ei deulu fod Mr Peel yn cael ei "garu fawr gan ei wraig Claire a'u merch Imogen".
Mewn datganiad, dywedodd y teulu eu bod yn "hynod ddiolchgar" i'r gwasanaethau brys ac aelodau'r cyhoedd wnaeth geisio helpu.
Roedd Mr Peel o Ogledd Iwerddon yn wreiddiol, ond symudodd i fyw yn Llanrwst yn Sir Conwy.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2021