Technoleg lloeren i asesu risg tomenni glo yn ne Cymru

  • Cyhoeddwyd
Dynes gydag ymbarel yn cerdded heibio tirlithriad tomen lo ym Mhendyrus, Rhondda Cynon TafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae tirlithriad Pendyrus wedi gadael craith ar y llethr

Bydd technoleg newydd yn cael ei defnyddio i asesu pa mor beryglus ydy rhai o domenni glo Cymru - a pha rai sydd fwyaf angen gwaith i'w diogelu.

Trwy anfon lloeren i'r awyr bydd modd gweld faint o ddŵr sydd o dan y tir a lle bo perygl y gallai'r tir lithro.

Daw prosiect Llywodraeth Cymru yn dilyn tirlithriad ar domen lo yn Mhendyrus, Rhondda Cynon Taf, fis Chwefror 2020.

Dywedodd cyd-reolwr y prosiect Richard Pidcock y byddai'r data yn allweddol wrth flaenoriaethu gwaith ar y tomenni.

Ychwanegodd Mr Pidcock fod asesu'r risg yn bwysicach fyth o ganlyniad i newid hinsawdd.

Yn 2020, rhybuddiodd AS y Rhondda Chris Bryant y gallai gymryd £500m i ddiogelu dros 2,000 o domenni glo yng Nghymru.

Ers hynny, mae'r Awdurdod Glo wedi penodi arbenigwyr astudio'r tir, Central Alliance, i ddefnyddio lluniau lloeren o domenni glo yn ne Cymru er mwyn asesu faint o ddŵr sydd o dan y tir.

Bydd sawl tomen lo yn rhan o'r prosiect, pwy bynnag fo'u perchnogion.

Ffynhonnell y llun, NASA/JPL-Caltech/ASU/MSSS
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r dechneg wedi ei addasu o ddull sy'n cael ei ddefnyddio i chwilio am ddŵr ar blanedau eraill

Bydd GroundSat yn asesu'r tir dros domenni glo ac ardaloedd cyfagos mewn 10 o awdurdodau lleol de Cymru.

Mae'r dechneg wedi ei haddasu o ddull sy'n cael ei ddefnyddio i chwilio am ddŵr ar blanedau eraill.

Mae'n mesur faint ddŵr sydd o dan y tir o bell, yn ogystal ag asesu pa mor beryglus yw'r tir.

Bydd y mesuriadau cyntaf yn cael eu cymryd ym mis Hydref er mwyn sefydlu lefelau dŵr sylfaenol yn ystod y misoedd sychach.

Yna bydd ail gyfnod o fesuriadau y flwyddyn nesaf er mwyn cofnodi newidiadau tymhorol y gaeaf.

'Rhan bwysig i'w chwarae'

Bydd yr asesiad yn cadarnhau pa mor effeithiol ydy systemau draenio dŵr presennol ac yn dod o hyd i unrhyw ddŵr o dan y tir allai beri pryder yn y dyfodol, yn ôl arweinwyr y prosiect.

Dywedodd pennaeth tasglu diogelu tomenni glo Llywodraeth Cymru, Lori Frater: "Ar y cyd â gwaith peirianyddiaeth, mae gan dechnoleg ran bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau diogelwch tomenni glo segur.

"Mae'n bwysig fod pob ffordd posib o asesu tomenni yn yr hir dymor yn cael eu hystyried, ac mae ariannu profion o wahanol dechnolegau yn helpu i sicrhau fod gennym ni strategaethau addas mewn lle."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Richard Pidcock y byddai'r data yn allweddol wrth flaenoriaethu gwaith ar y tomenni glo

Dywedodd Mr Pidcock, rheolwr-gyfarwyddwr Central Alliance: "Mae'n wych fod Llywodraeth Cymru a'r Awdurdod Glo yn troi at y dechnoleg ddiweddaraf yn fwriadol er mwyn helpu i roi sicrwydd fod y systemau draenio dŵr sydd eisoes mewn lle yn effeithiol, ac i ddod o hyd i ardaloedd gwlyb cudd.

"Fel yr ydym wedi gweld o ddigwyddiadau o dywydd eithafol ar draws y byd, mae'n hanfodol bwysig i asesu effaith newid hinsawdd, a bydd prosiect mapio lloeren GroundSat yn cyflwyno data pwysig ar gyfer yr asesiad hwnnw."