Cyngor i ystyried taliad o £95,000 i'w cyn-bennaeth

  • Cyhoeddwyd
Ian WestleyFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Ian Westley adael ei swydd ym mis Tachwedd 2020

Fe fydd Cyngor llawn Sir Penfro yn cwrdd yn ystod bore Llun i benderfynu a wnaeth yr arweinydd, David Simpson, weithredu heb yr awdurdod priodol wrth benderfynu rhoi taliad o £95,000 i'r cyn-Brif Weithredwr, Ian Westley.

Fe adawodd Mr Westley ei swydd ym mis Tachwedd 2020 trwy "gytundeb" yn ôl y cyngor ar y pryd.

Roedd cynghorwyr yr wrthblaid yn flin nad oedden nhw wedi cael y cyfle i gwestiynu'r penderfyniad a wnaed ym mis Medi, ac roeddent wedi galw am ymchwiliad mewnol.

Mewn adroddiad fydd yn mynd gerbron y cyngor, mae'r Dirprwy Swyddog Monitro yn dweud fod y penderfyniad i dalu £95,000 i Ian Westley yn groes i'r rheolau sydd yn gwahanu cyfrifoldebau'r Gweithgor a'r Cyngor llawn.

Mae penodi a diswyddo staff yn cael ei ddiffinio fel cyfrifoldeb i'r cyngor llawn.

Doedd y penderfyniad, yn ôl yr adroddiad "ddim yn un y gellid ei wneud gan yr arweinydd nac unrhyw gynghorydd unigol arall".

"Roedd y penderfyniad yn un i'r cyngor llawn. Doedd yna ddim awdurdod priodol i gytuno ar y setliad neu i wneud taliad i'r cyn-Brif Weithredwr."

Mae Archwilio Cymru hefyd yn cynnal ymchwiliad i'r taliad i Mr Westley.

Pynciau cysylltiedig