Bwrdd iechyd yn atal rhai gwasanaethau mamolaeth dros dro

  • Cyhoeddwyd
The Grange hospitalFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae mamau beichiog yn cael eu gyrru i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân yn y cyfamser

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi atal rhai gwasanaethau mamolaeth dros dro am fod cymaint o staff yn absennol oherwydd salwch.

Mae'r bwrdd iechyd wedi atal gwasanaethau sy'n cael eu harwain gan fydwragedd, a genedigaethau cartref mewn pedwar ysbyty.

Yr ysbytai sydd wedi'u heffeithio ydy Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni, Ysbyty Aneurin Bevan yng Nglyn Ebwy ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.

Mae disgwyl i'r mesurau fod mewn lle nes 18 Hydref, gyda mamau beichiog yn cael eu gyrru i Ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân yn y cyfamser.

Dywedodd y bwrdd iechyd eu bod yn profi problemau staffio oherwydd "salwch a hunan-ynysu".

Mae'r bwrdd wedi ymddiheuro i 11 o famau oedd wedi trefnu i roi genedigaeth yn yr ysbytai sydd wedi'u heffeithio, ac yn dweud na fydd yn cael effaith ar unrhyw un arall.