Merched beichiog yn dal i 'ddioddef ar ben eu hunain'
- Cyhoeddwyd
Mae merched beichiog yn wynebu loteri cod post ynghylch medru dod â phartner i apwyntiadau mamolaeth neu beidio.
Fe wnaeth byrddau iechyd ym mis Tachwedd ganiatáu i ferched beichiog mewn ardaloedd gyda chyfradd Covid isel fynd â'u partneriaid gyda nhw i apwyntiadau mamolaeth.
Ond mae sawl rhan o Gymru sydd â'r cyfraddau isaf yn dal i orfodi merched beichiog i fynychu rhai apwyntiadau ar eu pen eu hunain.
Wrth i'r cyfnod clo gael ei lacio, mae galwad am i bartneriaid ledled Cymru gael mynychu bob apwyntiad ac yn ystod y cyfnod esgor.
Mae galwad am ddull gweithredu ledled Cymru, fel sy'n wir am benderfyniadau ynghylch ailagor y sector lletygarwch a hamdden, ac mae ymgyrchwyr am i gyfyngiadau ar apwyntiadau mamolaeth gael eu llacio er mwyn caniatáu i'w partneriaid gael dod gyda nhw.
'Poeni'n ofnadwy'
Nid oedd Emma Fear, 30, yn cael mynd â'i phartner gyda hi i'r ysbyty pan wnaeth hi ddechrau gwaedu yn ystod ei beichiogrwydd ym mis Mehefin y llynedd. Dywedwyd wrthi, ar ei phen ei hun, ei bod wedi colli ei babi.
Yna roedd yn rhaid iddi ailadrodd y newyddion i'w phartner, a oedd yn aros y tu allan yn y car.
"Ar y pryd, gallai fod wedi dod i eistedd y tu allan i dafarn efo fi, ond nid oedd yn gallu dod efo fi pan roeddwn i wedi gwaedu'n ddifrifol ac yn gwybod fy mod yn ôl pob tebygolrwydd wedi colli fy mabi."
Mae Emma, o Bentywyn yn Sir Gaerfyrddin, bellach yn feichiog eto a dywedodd bod mynychu apwyntiadau ar ei phen ei hun wedi bod yn peri hyd yn oed mwy o bryder y tro hwn ar ôl ei cholled.
"Mae wedi bod yn lawer o straen, poeni mwy na dim, oherwydd fy mod wedi colli'r babi, a bu'n rhaid i mi fynd i'r sgan 12 wythnos yn gweddïo bod curiad calon," meddai. "Mae fy mhryder wedi bod trwy'r to."
Llwyddodd Emma i gael ei phartner gyda hi ar gyfer y sgan uwchsain 20 wythnos, ond nid oedd y babi yn y lle cywir ac felly cafodd apwyntiad dilynol ei drefnu na allai ei phartner ei fynychu.
"O'r holl bethau rydych chi'n mynd drwyddynt, mae methu â chael eich partner i fod yno ar gyfer hyn yn teimlo'n annheg.
"Ni ddylai'r gefnogaeth sydd gennych chi ddibynnu ar ble rydych chi'n byw. Pe bai'n gyfartal i bawb, byddai'n lawer gwell."
'Testun cywilydd'
Mae'r grŵp ymgyrchu Pregnant Then Screwed yn galw am i ferched allu dod â phartner gyda nhw i bob apwyntiad mamolaeth, trwy gydol y cyfnod esgor yn yr ysbyty ac ar ôl yr enedigaeth.
Dywedodd y grŵp y dylai'r sefyllfa bresennol fod yn "destun cywilydd", a'u bod am weld cefnogaeth gan ymgeiswyr y Senedd.
Dywedodd y sylfaenwr Joeli Brearley: "Mae merched yn parhau i ddioddef ar ben eu hunain mewn ysbytai, yn rhoi genedigaeth heb gefnogaeth lawn eu partner geni ac yn derbyn newyddion sy'n dorcalonnus ar ben eu hunain. Nid yw hyn yn iawn.
"Mae partneriaid genedigaeth yn eiriolwyr ac yn rhan hanfodol o'r broses beichiogrwydd a genedigaeth ac mae'n rhaid eu trin felly."
Pa fyrddau iechyd sy'n caniatáu i bartneriaid fynd i apwyntiadau mamolaeth?
Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - sy'n gwasanaethu rhannau o dde-ddwyrain Cymru gan gynnwys Casnewydd - eu bod yn caniatáu i bartner fod yn bresennol ar gyfer bob sgan, yn ogystal ag ar gyfer apwyntiadau a allai achosi trallod sylweddol, ond nid apwyntiadau cyn-enedigol arferol eraill, ers fis Medi 2020.
Nid oes gan y bwrdd gyfyngiadau ar bartneriaid sy'n mynychu'r enedigaeth, a gall partneriaid nawr fynychu yn ystod arosiadau cleifion mewnol ar y ward cyn-enedigol ac ôl-enedigol.
Yng ngogledd Cymru, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y gall un partner ddod i gefnogi merched sy'n mynychu apwyntiadau beichiogrwydd cynnar a'r ddau sgan arferol. Gall merched hefyd gael partner gyda nhw yn ystod y cyfnod esgor gweithredol, "yn ddelfrydol o'r un cartref neu'n ran o aelwyd estynedig" a gall partneriaid ddod i sefyllfaoedd brys fel pryderon am boen, gwaedu, neu achos o beidio â gallu theimlo'r babi yn symud yn ôl disgresiwn y fydwraig wrth y llyw.
Dywedodd Powys ei bod yn cynnig gwasanaeth bach yn y gymuned dan arweiniad bydwragedd a bod penderfyniadau'n cael eu gwneud fesul achos.
Yn ardal Hywel Dda, sy'n cynnwys canolbarth a de-orllewin Cymru, ni all menywod ddod â phartner i'r sgan dyddio 12 wythnos nac apwyntiadau arferol eraill, ond gallent ddod ag un i'r sgan 20 wythnos.
POLISÏAU: Cymharwch addewidion y pleidiau
DWY GROES MEWN DAU FLWCH: Pam bod gennych chi ddwy bleidlais?
PWY SY'N SEFYLL YN FY ARDAL I?: Rhowch eich cod post yn y blwch
WEDI DRYSU?: Dysgwch fwy gyda BBC Bitesize
PODLEDIAD: Croes yn y bocs
BLOG VAUGHAN RODERICK: Gwalia Deserta
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020