Buddugoliaeth yn Estonia yn allweddol i obeithion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Cymru v TsiecFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gêm yn y Weriniaeth Tsiec oedd perfformiad gorau Cymru yn y grŵp hyd yma

Bydd Cymru'n herio Estonia yn Tallinn nos Lun, ble fydd buddugoliaeth yn allweddol i'w gobeithion o orffen yn ail yn y grŵp.

Does dim pryderon anafiadau newydd yn dilyn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec nos Wener.

Ond gyda Connor Roberts a Harry Wilson wedi creu argraff ar ôl dod ymlaen fel eilyddion yn y gêm honno, fe fydd y ddau yn gobeithio dechrau yn Tallinn.

Er ei gamgymeriad ar gyfer ail gôl y Tsieciaid nos Wener, mae disgwyl i'r rheolwr Rob Page gadw ffydd yn y golwr Danny Ward

Gêm gyfartal ddi-sgôr rwystredig oedd hi rhwng y ddwy wlad yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf, ac oherwydd hynny mae'r Cymry dan fwy o bwysau i sicrhau canlyniad gwell y tro hwn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

0-0 oedd y sgôr rhwng Cymru ac Estonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis diwethaf

Roedd Page yn rhwystredig nad oedd Cymru wedi llwyddo i sicrhau'r triphwynt yn Prague, er gwaethaf perfformiad addawol.

"Roedden ni'n siomedig na wnaethon ni ennill. Rwy'n meddwl mai ni oedd y rheoli'r gêm ac fe greuon ni gyfleoedd da," meddai.

"Rydyn ni'n rhwystredig oherwydd fe ddylen ni fod wedi cael chwe phwynt o'r ddwy gêm ddiwethaf, nid dau.

"Ond mae'r frwydr am yr ail safle yn parhau. Mae gennym ni dair gêm yn weddill a dwy sydd gan y Weriniaeth Tsiec - yn ein dwylo ni mae hi."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Rob Page yn falch gyda'r perfformiad yn Prague er gwaetha'r canlyniad

Wedi'r ornest yn Tallinn nos Lun, dwy gêm gartef fydd yn weddill gan Gymru - yn erbyn Belarws ar 13 Tachwedd a Gwlad Belg dridiau'n ddiweddarach.

Bydd y Weriniaeth Tsiec yn herio Belarws nos Lun cyn iddyn nhw chwarae eu gêm olaf nhw yn erbyn Estonia ar 16 Tachwedd.

Ond gyda gêm olaf Cymru yn y grŵp yn erbyn y tîm sydd ar frig detholion y byd, mae Connor Roberts yn gobeithio sicrhau'r ail safle cyn y gêm honno.

"Gobeithio na fydd yn dibynnu ar y gêm olaf yn erbyn Gwlad Belg er mwyn i ni gymryd yr ail safle," meddai amddiffynnwr Burnley.

"Ond fe fyddai hynny'n well na bod gennym ni ddim cyfle o gwbl. Os oes rhaid i ni gael canlyniad gartref yn erbyn Gwlad Belg, dyna ni.

"Mae hi'n dal yn y fantol ac rydyn ni'n edrych ymlaen at wynebu Estonia."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp E ar hyn o bryd, tu ôl i'r Weriniaeth Siec ar wahaniaeth goliau

Mae Cymru yn y trydydd safle yng Ngrŵp E, tu ôl i'r Weriniaeth Siec ar wahaniaeth goliau, ond wedi chwarae un gêm yn llai.

Mae gan Wlad Belg fantais o wyth pwynt ar y brig, sy'n golygu fod gorffen yn gyntaf bron yn amhosib i Gymru.

Y gemau ail-gyfle ydy'r llwybr mwyaf tebygol i Gwpan y Byd Qatar felly.

Er bod Cymru bron yn siŵr o gyrraedd y rheiny oherwydd eu perfformiad yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae'n dal yn bwysig iddynt anelu at gipio'r ail safle yn y grŵp.

Trwy orffen yn ail fe fyddai gan Gymru lwybr haws trwy'r gemau ail-gyfle, ac fe fydden nhw hefyd yn chwarae o flaen cefnogaeth y Wal Goch gartref.