Menyw yn y llys wedi gwrthdrawiad a laddodd blentyn

  • Cyhoeddwyd
Teyrngedau
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi eu gadael er cof am y plentyn ger safle'r gwrthdrawiad yn Heol Goffa

Mae menyw 23 oed lleol wedi ymddangos mewn llys wedi ei chyhuddo o ladd plentyn ifanc mewn gwrthdrawiad yn Llanelli.

Mae Lucy Dyer yn wynebu cyhuddiadau o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus a gyrru dan ddylanwad alcohol yn dilyn y gwrthdrawiad yng nghroesffordd Heol Goffa'r dref nos Wener.

Mae'r ferch ifanc fu farw wedi ei henwi'n lleol fel Eva Maria, oedd yn chwe mis oed.

Mae ei rhieni wedi diolch i'r cyhoedd am eu cefnogaeth ar ôl i dros £10,000 gael ei godi ar gyfer y teulu.

"Rydym yn dorcalonnus. Dwi'n gobeithio bod Duw yn gofalu amdanat - dwi methu disgrifio'r boen yma," meddai mam Eva, Carmen.

Roedd Ms Dyer yn crynu ac yn crio gydol y gwrandawiad yn Llys Ynadon Llanelli, ac fe siaradodd ond i gadarnhau ei manylion personol.

Cafodd ei chadw yn y ddalfa nes gwrandawiad yn Llys Y Goron Abertawe ar 12 Tachwedd.

Pynciau cysylltiedig