Cyn-swyddog Heddlu Gwent yn cyfaddef sawl perthynas anaddas
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-blismon a gafodd sawl perthynas anaddas gyda menywod y gwnaeth eu cyfarfod wrth weithio wedi cyfaddef dau gyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Roedd Paul Chadwick, 51, yn gwnstabl gyda Heddlu Gwent cyn iddo ymddeol ym mis Mehefin eleni.
Clywodd Llys y Goron Casnewydd bod Mr Chadwick wedi cwrdd â dwy fenyw wrth weithio fel plismon yn 2020.
Fe ddechreuodd un perthynas anaddas rhwng Ionawr ac Ebrill y llynedd, ac un arall rhywbryd ym mis Mai.
Cafodd ei gyhuddo yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Fe wnaeth y Barnwr Jeremy Jenkins ohirio dedfrydu Mr Chadwick gan gyfeirio at "amgylchiadau anarferol" yr achos.
Cafodd Mr Chadwick ei ryddhau ar fechnïaeth ac fe fydd yn cael ei ddedfrydu ar 13 Rhagfyr.
Dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent, Amanda Blakeman, bod yr achos wedi ei gyfeirio at yr IOPC yn syth ar ôl i'r honiadau ddod i'r amlwg.
"Pob dydd mae'r mwyafrif o'n swyddogion yn gweithio i ddarparu gwasanaeth ardderchog ac i adeiladau'r hyder sydd gan ein cymunedau," meddai wedi'r achos llys.
"Mae unigolyn fel Chadwick yn siomi ei gydweithwyr a chymunedau trwy beidio cadw'r safonau uchel mae'r heddlu a chymunedau yn eu disgwyl gan ein swyddogion."
"Does dim lle i'r fath yma o ymddygiad yn Heddlu Gwent," ychwanegodd.