'Doedd dim cymorth yn Gymraeg ar ôl imi golli babi'

  • Cyhoeddwyd
Mother holding premature baby's handFfynhonnell y llun, Science Photo Library

Does dim digon o gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg i fenywod sydd wedi colli babi, meddai un fam.

A hithau'n Wythnos Codi Ymwybyddiaeth Colli Babi mae yna alwadau i ddarparu mwy o gefnogaeth yn y Gymraeg i famau sy'n mynd trwy'r profiad anodd o golli plentyn.

Fe wnaeth Heledd Thomas o Nantgaredig, yn Sir Gaerfyrddin, golli ei mab cyntaf, Cai yn 2015 wedi i sganiau amlygu bod ei gyflwr mor ddifrifol nes bod rhaid terfynu'r beichiogrwydd wedi 22 o wythnosau.

Mewn cyfweliad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd doedd "dim lot" o gyfle am gefnogaeth emosiynol ar ôl y profiad, yn enwedig yn y Gymraeg.

'Anodd delio â'r galar'

Roedd popeth i'w weld yn mynd yn iawn tan y sgan 20 wythnos.

"O'dd pethe mor ddifrifol bu'n rhaid i ni wneud y penderfyniad torcalonnus o derfynu'r beichiogrwydd," dywedodd Heledd.

Er iddi ganmol gwaith y staff yn yr ysbyty, mae'n dweud nad oedd llawer o gefnogaeth emosiynol wrth iddi ddychwelyd adref.

"O'dd y meddygon yn amlwg yn rhoi y wybodaeth o'n nhw gallu rhoi i ni o ran beth oedd yn bod, a be oedd ein dewisiade ni," meddai.

"Ond oedd neb rili yn gallu helpu ni, yn enwedig ar ôl i ni golli e ac o ran yr ochr galar, oedd hwnnw'n anodd iawn i ddelio gyda - o'dd e'n hollol llethol ar adege."

Ffynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,

Fe gollodd Heledd Thomas ei mab cyntaf yn 2015

"O'n ni jyst yn lwcus bod midwife cymunedol ni yn arbennig o dda a nath hi cadw cysylltiad gyda ni, ond dim 'a beth oedd ei swydd hi [y] cyfnod 'ny, ond jyst achos bod hi'n berson neis ac yn jyst neud hynny.

"Oedd hi'n araf iawn cael at y cwnsela ac wedyn gorfod cael hynny trwy'r Saesneg.

"Pan ti mewn man mor dywyll ti ffili rili ffeitio am gael pethau yn y Gymraeg chwaith, ti ddim 'da'r egni am hynny, ti'n bennu lan jyst yn derbyn be bynnag ti'n gallu wedyn."

Elusennau'n arwain y gad

Yn ôl Heledd, dyw'r GIG ddim yn darparu digon o gymorth uniongyrchol i fenywod sydd wedi colli babanod, gan eu gorfodi i droi at elusennau - sydd fel arfer ddim yn cynnig cymorth yn y Gymraeg.

"[Mae] beth mae'r NHS yn cynnig yn basic iawn, unrhyw beth o ran cymorth, siarad â theuluoedd sydd wedi bod trwy'n un peth... elusennau sy'n arwain y gad," dywedodd.

"Yn amlwg i'r elusennau mae cyfieithu popeth i'r Gymraeg i weld yn extra cost i nhw achos elusennau wedi cael eu setio lan yn Lloegr ydyn nhw.

"Dyw nhw ddim yn elusennau Cymreig - dyw nhw ddim wedi cael eu creu ar gyfer bod yn Gymraeg."

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heledd nawr yn gwirfoddoli gydag elusen sy'n darparu cymorth i famau sy'n galaru, Aching Arms, ac wedi gweithio i sicrhau rhywfaint o gymorth trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ond dywedodd bod rhaid gwneud mwy i sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg fynediad i gymorth yn eu hiaith gyntaf.

"Nes i gyfieithu'r taflenni a phamffledi oedd gan Aching Arms i'r Gymraeg ond yn amlwg [roedd] hwnna i gyd yn wirfoddol, a dim ond so much ti'n gallu neud yn wirfoddol."

Ychwanegodd bod hi'n bwysig codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl yn gyffredinol "bod colli babi yn rhywbeth mae'n ok i siarad amdano" fel eu bod yn gallu bod o gymorth i bobl sy'n galaru ar ôl bod trwy'r profiad.

Pynciau cysylltiedig