Sioc a chydymdeimlad wedi i AS gael ei drywanu a'i ladd
- Cyhoeddwyd
Mae gwleidyddion Cymreig wedi mynegi sioc a chydymdeimlad wedi marwolaeth yr Aelod Seneddol Ceidwadol Sir David Amess, a gafodd ei drywanu wrth gynnal syrjeri yn ei etholaeth yn Essex.
Bu farw AS Southend West yn yr eglwys yn Leigh-on-Sea er gwaethaf ymdrechion y gwasanaethau brys i'w achub - roedd yn cwrdd ag etholwyr lleol ar y pryd.
Mae Heddlu Essex wedi cadarnhau bod dyn 25 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ac nad ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r achos.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, ei fod yn drist iawn o glywed am y farwolaeth, gan ddisgrifio'r hyn a ddigwyddodd fel "gweithred wirioneddol ddirmygus ac arswydus".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Simon Hart: "Mae'r newyddion bod fy nghydweithiwr David Amess wedi cael ei drywanu a'i ladd tra'n gwasanaethu ei etholwyr yn drasiedi enbyd i'w deulu, ei ffrindiau a'i gymuned.
"Bydd yn codi sawl cwestiwn, ond am y tro mi wn y byddwn ni oll yn meddwl am ei deulu ac yn cofio ei garedigrwydd a'i ymroddiad."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, Andrew RT Davies ei fod "wedi brawychu ac wedi fy llorio" o glywed am y farwolaeth.
Roedd Syr David, meddai, "wedi gwasanaethu fel AS gyda balchder am bron i bedwar degawd, gan gynrychioli ei etholwyr a'i wlad gyda theyrngarwch ac ymroddiad".
Ychwanegodd: "Mae fy meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg trasig hwn. Boed iddo orffwys mewn hedd."
Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price ei fod yn "syfrdan ac yn drist eithriadol o glywed y newyddion erchyll yma".
"Roedd Syr David yn un o'r gwleidyddion mwyaf caredig, rhadlon ac ymroddgar rwyf wedi ei adnabod erioed. Roedd yn anrhydedd i'w alw'n gyfaill."
Gan ddweud bod y newyddion wedi ei hysgwyd, dywedodd Llywydd Senedd Cymru, Elin Jones: "Mae ein proses ddemocrataidd yn dibynnu ar allu ein haelodau etholedig i wrando a siarad â'r bobl ry' ni yn eu gwasanaethu.
"Mi ddylai pob aelod etholedig, yn ddieithriad, allu gwneud y gwaith hwn yn ddiogel a heb ofn. Er gwaetha' gwahaniaeth barn, mae ein parch tuag at y broses ddemocrataidd yn ein huno ni, ynghyd â'n hymrwymiad i wasanaethu'r cyhoedd."
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds: "Cafodd Syr David ei ladd tra'n cynnig help i etholwyr. Dyna'r gwaith pwysicaf rydyn ni'n ei wneud a dylie hynny allu parhau'n ddiogel."
Ychwanegodd na fydd y blaid yn cynnal unrhyw weithgaredd ymgyrchol dros y penwythnos fel arwydd o barch iddo.
Ail achos tebyg mewn pum mlynedd
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd ASau Plaid Cymru yn San Steffan - Liz Saville Roberts, Hywel Williams a Ben Lake bod y farwolaeth "yn golled i ni oll yn y Senedd ac i fywyd cyhoeddus".
Maen nhw'n dweud bod hi'n "frawychus eithriadol bod dau AS nawr wedi cael eu lladd yn eu hetholaethau yn y pum mlynedd diwethaf".
Cafodd yr AS Llafur Jo Cox ei llofruddio yn ystod ymgyrch refferendwm Brexit yn 2016.
Dywedodd yr ASau bod Syr David Amess "yn wir seneddwr" a bod "ei eiriau caredig o gyngor wedi helpu sawl aelod newydd ddod i arfer gyda'r drefn yn San Steffan. Roedd ei gyfraniadau yn y Tŷ wastad yn ystyriol a gwerthfawr".
Wrth siarad ar raglen Post Prynhawn, dywedodd cyn-AS Ceidwadol Aberconwy Guto Bebb bod Syr David Amess, fel Jo Cox, yn aelod meinciau cefn oedd "yn trio gwyntyllu pryderon ei etholwyr" ac y byddai'n "arswydo bod y cyswllt yna rhwng yr Aelod Seneddol a'r etholwr yn cael ei fygwth gan yr hyn sydd wedi digwydd iddo fo heddiw".
Dywedodd ei fod yntau wedi gorfod cymryd mesurau i ddiogelu ei gartref tra'n AS, ond mae'n anodd gwybod sut mae sicrhau diogelwch gwleidyddion wrth gynnal cymorthfeydd a chwrdd ag etholwyr yn eu hetholaethau.
"Dylia ni wneud mwy wrth gwrs," meddai, "ond mae'n anodd gweld sut mae rhywun yn gallu gwneud pob neuadd pentre', neu bob neuadd eglwys, yn ddiogel ar gyfer cyfarfodydd efo etholwyr wyneb yn wyneb."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021