Galw am ymwybyddiaeth o ganser y fron ymhlith dynion
- Cyhoeddwyd
Mae Pat a Mark James yn gwybod eu bod nhw mewn sefyllfa anarferol - gan fod y ddau ohonynt wedi goroesi canser y fron.
I fenywod fel Pat dyw'r frwydr ddim yn un anarferol, gan mai dyma'r math mwyaf cyffredin o ganser ymhlith merched.
Ond roedd Mark yn un o ddim ond 370 o ddynion ymhlith y 56,000 o bobl yn y DU sy'n cael diagnosis o'r clefyd bob blwyddyn.
"Dyw llawer o ddynion ddim yn sylwi eu bod nhw'n gallu cael canser y fron," meddai Mark, 79.
"Doeddwn i heb glywed am y peth chwaith cyn i mi ei gael e."
'Rhy macho i sylweddoli'
Nawr mae'r tad-cu o Borthcawl eisiau codi mwy o ymwybyddiaeth ymhlith dynion, gan ddweud na ddylen nhw deimlo "embaras" os ydyn nhw'n gweld rhywbeth o'i le gyda'u brest.
"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl mai dim ond canser i ferched yw e, achos bod cymaint o ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth wedi'u anelu at ferched," meddai.
"Ond mae angen i ddynion wybod eu bod nhw'n gallu ei gael e, a marw ohono fe hefyd."
Fe aeth Pat drwy ei phrofiad hi o ganser y fron 40 mlynedd yn ôl, ac felly roedd hi'n gallu cynorthwyo Mark drwy ei brofiad diweddar yntau.
"Roedd e'n sioc, ond roedd e'n bwysig i gael diagnosis cynnar," meddai.
Dywedodd Mark fod rhai dynion yn ei chael hi'n anodd deall bod posib cael y salwch oherwydd nad ydyn nhw'n cysylltu'r gair 'bron' gyda dynion.
Mae rhai o'r sgyrsiau fi wedi cael yn syfrdanol," meddai. "Os dwi'n dweud mod i wedi cael canser y fron, dydyn nhw ddim yn deall.
"Mae rhai hefyd yn meddwl os yw dyn yn cael canser y fron, ti rywsut ddim yn ddyn. Y busnes macho 'ma yw e - fi wedi cael canser y fron, so what."
Mae mam a chwaer Mark hefyd wedi cael canser y fron, ac yn ôl ymchwilwyr mae dynion a menywod sydd a hanes teuluol o'r afiechyd yn wynebu risg uwch o'i ddatblygu.
Fel arfer mae canser y fron mewn dynion yn effeithio'r rheiny dros 50 oed, ond does dim ymchwil na sgrinio penodol ar ei gyfer.
"Mae gan ddynion union yr un meinwe yn y fron ag sydd gan fenywod," meddai Zoe Barber, llawfeddyg ymgynghorol yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont.
"Dyw e jyst ddim mor sylweddol, ac mae'n mynd drwy'r un newidiadau hormonaidd sy'n digwydd gydag oed. Mae meddyginiaeth hefyd yn gallu ei newid hefyd."
Yn ôl Pat, mae angen newid enw'r afiechyd: "I ddynion dylen nhw alw fe'n ganser y frest - mae'n rhywbeth fydden nhw'n deall wedyn."