Dyn yn cyfaddef un cyhuddiad yn achos Emiliano Sala
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi cyfaddef un cyhuddiad wrth i'r achos llys yn ymwneud â marwolaeth y pêl-droediwr Emiliano Sala ddechrau ddydd Llun.
Mae David Henderson, 66, wedi pledio'n euog i gyhuddiad o geisio trefnu taith heb ganiatâd priodol, mewn cysylltiad â'r awyren roedd Sala yn teithio arni pan fu farw.
Fe wnaeth Mr Henderson, o Hotham, Sir Dwyrain Efrog, newid ei ble yn ystod y gwrandawiad yn Llys y Goron Caerdydd.
Mae Mr Henderson hefyd wedi pledio'n ddieuog i gyhuddiad o beryglu diogelwch awyren.
Yr Awdurdod Hedfan Sifil sydd wedi dwyn yr achos yn ei erbyn.
Mae Mr Henderson wedi ei gyhuddo o drefnu'r daith awyren roedd Sala a'r peilot Dave Ibbotson arni pan blymiodd i Fôr Udd yn Ionawr 2019.
Roedd yr awyren Piper Malibu yn cludo'r chwaraewr 28 oed, oedd wedi arwyddo cytundeb gwerth £15m i ymuno â'r Adar Gleision, o Nantes yn Ffrainc i Gaerdydd.
Cafodd corff Sala ei ddarganfod ar wely'r môr y mis canlynol, ond dydy corff Mr Ibbotson, o Crowle, Sir Lincoln, na gweddillion yr awyren wedi eu codi o'r môr.
Mae disgwyl i'r achos bara am 10 diwrnod.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2020
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2019