Ioan Wynne Rees yn ennill Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Gwobrwyo enillydd Medal Gyfansoddi'r Urdd 2020/21

Ioan Wynne Rees o Gyffylliog, Rhuthun yw enillydd Medal Gyfansoddi Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Cafodd canlyniad y gystadleuaeth ei gyhoeddi ar blatfformau digidol yr Urdd nos Fawrth wrth i'r mudiad ieuenctid wobrwyo gwaith cyfansoddi buddugol a ddaeth i law cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig yng ngwanwyn y llynedd.

Daeth i'r brig gyda gwaith o'r enw 'Caneuon Clodfawr: Pum Cân o Glwyd i Denor', sef gosodiad o eiriau I D Hooson, Gwilym R Jones ac R Williams Parry.

Cyfansoddiad arall gan Ioan ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth, a Gwydion Powel Rhys o Rachub, Dyffryn Ogwen a ddaeth yn drydydd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Cyfansoddiadau Ioan Wynne Rees ddaeth yn gyntaf ac ail yn y gystadleuaeth

Mae Ioan bellach yn byw ym Mangor ac yn gweithio fel tiwtor gyda Gwasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn, wedi iddo gwblhau Gradd M.A. mewn Cerddoriaeth, oedd yn canolbwyntio ar ganu roc Cymraeg.

"Nes i greu cylch o ganeuon oedd yn seiliedig ar eiriau am Ddyffryn Clwyd gan awduron neu feirdd o Ddyffryn Clwyd, ac oedd yn clodfori'r ardal - dyna le mae'r teitl 'Caneuon Clodfawr' yn dod, sef o'r dywediad 'Dyffryn Clodfawr Clwyd'," meddai.

"Nes i gyflwyno'r casgliad i fy ffrind a'r tenor Dafydd Wyn Jones achos ro'n i'n meddwl am ei lais wrth eu cyfansoddi.

"Mae ennill y gystadleuaeth gyda chaneuon am Ddyffryn Clwyd, ar gyfer yr Eisteddfod oedd 'i fod' yn Sir Ddinbych, yn golygu lot i mi."

Mae Ioan yn derbyn medal wedi'i chreu gan gwmni gemwaith Rhiannon, Tregaron, am y gwaith buddugol.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Gwydion Powel Rhys, sy'n astudio Cyfansoddi yng Ngholeg Cerdd Frenhinol Llundain, ddaeth yn drydydd

Dywedodd beirniad y gystadleuaeth, Mared Emlyn fod alawon Ioan wedi'u cyfansoddi yn "ystyrlon", ac yn "werth eu clywed".

"Mae'r casgliad hefyd yn gweithio fel cyfanwaith ac felly yn sicr yn gylch o ganeuon," meddai.

"Mae'r llais yn cael ei arddangos yn dda ond beth sy'n aros yn y cof yw nad yw'r cyfansoddwr wedi anghofio pwysigrwydd y piano, a'r berthynas rhyngddo â'r llais.

"Dyma gyfeiliant diddorol, addas, nad yw'n undonog nac yn ddiddychymyg ac mae'r llais a'r cyfeiliant yn cydweithio'n gelfydd iawn."

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ioan yn derbyn medal wedi'i chreu gan gwmni gemwaith Rhiannon, Tregaron, am y gwaith buddugol

Am yr ail flwyddyn, oherwydd y pandemig, bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, ac fe drefnwyd Eisteddfod T unwaith eto eleni i lenwi peth o'r bwlch.

Cafodd canlyniad y Goron ei gyhoeddi nos Lun, a bydd y Fedal Ddrama yn cael ei gyhoeddi nos Fercher, a'r Gadair nos Iau.