Megan Angharad Hunter yn ennill Coron Eisteddfod yr Urdd

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Gwobrwyo enillydd Coron yr Urdd 2020/21

Yr awdures Megan Angharad Hunter o Benygroes, Dyffryn Nantlle yw enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

Cafodd canlyniad y gystadleuaeth ei gyhoeddi ar blatfformau digidol yr Urdd nos Lun wrth i'r mudiad ieuenctid wobrwyo gwaith cyfansoddi buddugol a ddaeth i law cyn cyfnod clo cyntaf y pandemig yng ngwanwyn y llynedd.

Daeth i'r brig dan y ffugenw Lina gyda gwaith a gafodd ei gyflwyno mewn ymateb i'r gofyn - ymhell cyn y pandemig - am ddarn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eiriau ar y thema 'Mwgwd/Mygydau'.

"Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn gwbl swreal," meddai Megan, a enillodd brif wobr Llyfr y Flwyddyn 2021 ym mis Awst am ei nofel gyntaf 'tu ôl i'r awyr'.

"Cyhoeddi 'tu ôl i'r awyr' ym mis Tachwedd 2020, ac wedyn ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn efo'r nofel honno, a rŵan y Goron!"

Ffynhonnell y llun, Megan Hunter
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Megan Angharad Hunter brif wobr Llyfr Y Flwyddyn 2021 a hynny ar ôl dod i'r brig yn y lle cyntaf yn y categori ffuglen

Daeth Megan yn ail am Goron yr Urdd yn Eisteddfod Caerdydd a'r Fro 2019, ac mae hi bellach yng nghanol ei blwyddyn olaf ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio cwrs BA mewn Cymraeg ac Athroniaeth.

"Dwi jest mor ddiolchgar am yr holl gefnogaeth," meddai.

"Mi ydan ni mor lwcus yma yng Nghymru fod gennym ni'r cyfleoedd yma i arbrofi ac i ddatblygu ein sgiliau ni fel awduron."

'Llwyr haeddu'r Goron'

Dywedodd beirniaid y gystadleuaeth, Siân Northey a Casia Wiliam, nid oedd "fymryn o amheuaeth" ynghylch gwobrwyo'r darn "uchelgeisiol sydd yn mynd â ni ymhell i'r dyfodol" a bod 'Lina' yn "llwyr haeddu Coron yr Urdd 2020".

Ychwanegodd y ddwy bod y llenor buddugol yn amlygu "meistrolaeth dros iaith sydd yn ei alluogi i ddefnyddio arddull ffug academaidd ar gyfer un darn a llythyrau wedi'u hysgrifennu gan blentyn ar gyfer y gweddill. Mae Ati a Jei ei frawd, ac Emyn ei ffrind, yn gymeriadau fydd yn aros yn y cof am hir."

Osian Wyn Owen o'r Felinheli - Prifardd Eisteddfod T 2020, ac enillydd Cadair Eisteddfod yr Urdd 2018 - oedd yn ail ac yn drydedd yn y gystadleuaeth.

Dan bartneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru, mae'r llenorion sy'n dod yn gyntaf, ail a thrydydd yn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn penwythnos o weithdai ysgrifennu creadigol dan gynllun Cwrs Olwen yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Osian Wyn Owen oedd yn ail ac yn drydedd yn y gystadleuaeth

Coron Covid

Mared Davies gafodd y comisiwn i greu'r Goron ac fe benderfynodd i ddehongli ymyrraeth Covid-19 o fewn ei dyluniad.

"Penderfynais wneud beth dwi'n gwneud orau, sef cyfuno deunydd meddal, lliwgar gyda deunydd caled, mwy tywyll - thecstilau â metelau," meddai.

Ffynhonnell y llun, Urdd Gobaith Cymru

"Er bod y goron yn cyfleu adeg galed yn ein bywydau, yn weledol, mae'n edrych yn brydferth gyda'r holl droelli, ansawdd, lliw.

"Nid yw coron yn rhywbeth y byddwn yn gwisgo pob dydd, felly, yn bersonol roedd hi yn bwysig iawn i mi i'w gwneud yn fwy cerfluniol gan ddefnyddio ffrâm yr wyneb.

"Gan gynnwys mwgwd wrth gwrs, y peth pwysicaf newydd yn ein bywydau sydd yn galluogi ein 'normalrwydd' newydd."

Am yr ail flwyddyn, oherwydd y pandemig, bu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2020, ac fe drefnwyd Eisteddfod T unwaith eto eleni i lenwi peth o'r bwlch.

Bydd canlyniadau'r Fedal Gyfansoddi yn cael eu cyhoeddi nos Fawrth, y Fedal Ddrama nos Fercher, a'r Gadair nos Iau.