Dyn ifanc a laddwyd 'i ddod yn dad mewn wythnosau'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn ifanc a fu farw ar ôl ymosodiad honedig yn Aberdâr dros y penwythnos wedi talu teyrnged iddo.
Roedd Keyron Curtis, 21, i fod i ddod yn dad o fewn ychydig wythnosau.
Bu farw'r dyn o Gwmdâr wedi digwyddiad y tu allan i'r Colliers Arms yn ardal Penywaun toc wedi 01:00 fore Sul, 17 Hydref.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi'r digwyddiad, ble bu farw yn ddiweddarach.
'Byddai wedi bod yn dad gwych'
"Roedd Keyron yn fachgen teulu cyfeillgar, rhwydd gyda chalon aur," meddai ei deulu mewn teyrnged.
"Roedd pawb ohonom yn ei garu, ac roedd bob amser yn rhoi pobl eraill yn gyntaf.
"Roedd i ddod yn dad mewn ychydig wythnosau a byddai wedi bod yn dad gwych. Bydd colled fawr ar ei ôl gan ei deulu a'i ffrindiau i gyd."
Mae dyn 24 oed o Benywaun wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth yn sgil y digwyddiad ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Hydref 2021