Cyhuddo dyn o ddynladdiad ar ôl ymosodiad Aberdâr
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 24 oed wedi'i gyhuddo o ddynladdiad ar ôl ymosodiad ar ddyn ifanc yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf.
Bu farw Keyron Curtis, 21 o Gwmdâr, wedi digwyddiad y tu allan i'r Colliers Arms yn ardal Penywaun toc wedi 01:00 fore Sul, 17 Hydref.
Cafodd Daniel Howells-Thomas, o Lwynderi, Penywaun, hefyd ei gyhuddo o ymosod yn gysylltiedig â digwyddiad gwahanol ar yr un noson.
Roedd disgwyl i Mr Howells-Thomas ymddangos yn Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio'r digwyddiad ac yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021