'Angen denu mwy o athrawon i gyrraedd nod 2050'

  • Cyhoeddwyd
Prinder Athrawon
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r adroddiad yn dangos fod cwymp yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg neu'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg

Rhaid cael mwy o athrawon sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg os am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, meddai Comisiynydd y Gymraeg.

Mewn adroddiad newydd dywed Aled Roberts bod gan y sector addysg rôl allweddol i'w chwarae i gyrraedd y nod a bod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd.

Mae hefyd yn bryderus am ffigyrau diweddar sy'n dangos bod gostyngiad wedi bod yn nifer yr athrawon newydd sy'n gallu siarad Cymraeg neu'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud fod recriwtio athrawon Cymraeg yn flaenoriaeth iddynt.

Mae targedau'r llywodraeth yn nodi bod angen cynyddu'r gyfran o blant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 40% erbyn 2050, a chynyddu'r nifer sy'n gallu siarad Cymraeg ar ôl bod mewn ysgol cyfrwng Saesneg/dwyieithog i 50%.

Er mwyn gwneud hynny, maen nhw wedi gosod targed i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu yn dysgu'r iaith fel pwnc i 9,400 erbyn 2050.

Pryderon am y niferoedd

Ond yn ôl Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts: "Er mwyn bod yn agos i gyrraedd y targedau sydd wedi'u gosod gan y llywodraeth yn y sector addysg, mae angen cynnydd radical yn nifer yr athrawon yng Nghymru sy'n gallu addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg."

Mae'r adroddiad yn dangos fod cwymp yn nifer yr athrawon sydd newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg neu'n gallu gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pum mlynedd ddiwethaf.

Roedd yna ostyngiad o 23% yn yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu siarad Cymraeg a chwymp o 27% yn y rhai sy'n gallu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Llywodraeth wedi gosod targed i gynyddu'r nifer o athrawon sy'n gallu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r iaith fel pwnc i 9,400 erbyn 2050

Ychwanegodd y comisiynydd: "Mae'r nifer myfyrwyr sy'n dilyn cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) ar ei isaf ers i'r cofnodion gychwyn yn 2010/11 ac mae'r cyfanswm o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n hyfforddi i addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn 2018/19 bron i hanner y nifer a oedd yn hyfforddi yn 2013/14.

"Mae'r gostyngiad hwn yn peri pryder i ni fel y mae'r ffaith nad yw nifer sylweddol o athrawon sy'n rhugl neu'n weddol rugl yn y Gymraeg yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llywodraeth yn nodi bod angen cynyddu'r gyfran o blant sy'n derbyn addysg cyfrwng Cymraeg i 40% erbyn 2050

Dywedodd prif weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Ioan Matthews fod y coleg yn "rhannu'r un pryderon" a'r Comisiynydd a bod rhaid cynnyddu y nifer o athrawon cyfrwng Cymraeg er mwyn cyrraedd targed y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

"Rydym yn croesawu felly y galw am strategaeth gynhwysfawr i fynd i'r afael â'r heriau hyn gan gynnwys gosod targedau mwy pellgyrhaeddol ar y canolfannau darparu a chyflwyno rhaglen o waith i gynyddu sgiliau Cymraeg pob darpar athro ac athrawes," meddai.

'Angen edrych ar gyflogau a llwyth gwaith'

Wrth ymateb i Cymru Fyw dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol UCAC, Dilwyn Roberts-Young bod yr undeb yn cytuno gyda sylwadau'r Comisiynydd iaith bod angen "gweledigaeth glir" i ddenu athrawon newydd a'u cadw.

Ychwanegodd bod angen edrych ar faterion eraill i wneud dysgu yn faes atyniadol fel lleihau llwyth gwaith a llwybrau gyrfa clir.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

"Rhaid ystyried llwyth gwaith athrawon, cyflogau a llwybr gyrfa," medd UCAC

"Rydym yn croesawu'r adroddiad fel sail ar gyfer deialog â llywodraeth genedlaethol, ranbarthol a lleol ac yn cymeradwyo honiad yr adroddiad nad 'strategaeth ategol ar gyfer athrawon cyfrwng Cymraeg sydd ei hangen, ond yn hytrach strategaeth hyfforddi a datblygu athrawon sy'n adlewyrchu'r weledigaeth o Gymru ddwyieithog," meddai.

Galw am fuddsoddi £100m

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am fuddsoddi £100m dros 10 mlynedd mewn hyfforddiant iaith i athrawon, a chynyddu'r targed ar gyfer athrawon sy'n medru'r Gymraeg o 30% i 80% erbyn 2026.

Dywed is-gadeirydd grŵp addysg y mudiad, Toni Schiavone bod angen "chwyldro yn y ffordd rydyn ni'n cynllunio'r gweithlu addysg, a hyfforddiant cychwynnol athrawon."

"Er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr a mwy, bydd rhaid i lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu'r maes yma drwy basio Deddf Addysg Gymraeg, gwneud buddsoddiad digynsail mewn hyfforddiant iaith, a gosod targedau uchelgeisiol i sicrhau bod y rhan fwyaf o athrawon newydd yn medru dysgu drwy'r Gymraeg."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod recriwtio athrawon Cymraeg yn flaenoriaeth iddynt.

Maen nhw'n ceisio denu mwy o athrawon Cymraeg trwy ddarparu cymhelliant ariannol a chynnal ymgyrchoedd marchnata.

"Rydyn ni hefyd yn ymgymryd â nifer o ddulliau arloesol, gan gynnwys ein rhaglen newydd ar gyfer athrawon cynradd Cymraeg sydd eisiau dysgu mewn ysgolion uwchradd," meddai'r llefarydd.

"Mae ffigurau diweddaraf UCAS yn dangos cynnydd o 19% yn nifer y ceisiadau myfyrwyr i hyfforddi i ddod yn athrawon ysgolion uwchradd, sy'n galonogol, gan y byddem wedyn yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n hyfforddi i ddod yn athrawon a fydd yn gallu addysgu trwy gyfrwng Cymraeg."

Mae'r comisiynydd wedi nodi nifer o argymhellion yn yr adroddiad ond mae'n galw yn benodol ar Lywodraeth Cymru i arwain ar lunio strategaeth hir dymor er mwyn gweddnewid cyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon yng Nghymru fel bod sgiliau Cymraeg pob athro o dan hyfforddiant yn cael eu datblygu.