Ateb y Galw: Y delynores Cerys Hafana

  • Cyhoeddwyd
Cerys HafanaFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Cerys Hafana

Y delynores Cerys Hafana sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Sam Petersen yr wythnos diwethaf.

Cerddor o Fachynlleth, sydd bellach yn astudio ym mhrifysgol Goldsmiths yn Llundain yw Cerys Hafana. Mae hi'n chwarae amrywiadau cyfoes o hen alawon a chaneuon Cymreig, ynghyd â chyfansoddiadau gwreiddiol ar y delyn deires a'r piano. Mae hi hefyd yn aelod o Avanc (Ensemble Gwerin Ieuenctid Cymru). Rhyddhaodd ei halbwm cyntaf unigol, Cwmwl, yn 2020.

Ffynhonnell y llun, Cerys Hafana

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Pan o'n i tua 2 mlwydd oed, dwi'n cofio mynd i ryw barc ym Manceinion lle oedden nhw'n cadw ambell anifail fferm.

Ma' rhaid mod i wedi rhoi fy mys bach yn rhy agos at ryw ŵydd, achos i gyd dwi'n cofio o'r diwrnod yma yw cael fy nghnoi gan y gŵydd yma. O'n i hefyd yn gwisgo côt binc fflyffi anhygoel ar y pryd, felly 'swn i'n deud bod y profiad yma wedi bod yn formative yn nhermau ffasiwn yn ogystal â fy ofn o wyddau.

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Dwi'n caru mynd i Fethesda.

Ma' 'na rywbeth am y tirwedd a'r naws eitha tywyll sy'n siwtio fi dwi'n meddwl.

Ffynhonnell y llun, Cerys Hafana
Disgrifiad o’r llun,

Bethesda

Ma' 'na hefyd gapel yn Eglwysfach (rhwng Machynlleth ac Aberystwyth) o'r enw Capel y Graig, sydd yn cael ei defnyddio fel rhyw fath o ofod celf/perfformiad.

Ma'r sain yn y capel yn anhygoel, ac ma' 'na rywbeth am yr adeilad sy'n neud i fi deimlo'n fwy heddychlon nag ydw i fel arfer. 'Swn i'n gallu treulio fy mywyd i gyd yn chwarae'r harmoniwm bach toredig yna, dwi'n meddwl.

Ffynhonnell y llun, Avi Allen
Disgrifiad o’r llun,

capel-y-graig

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Es i i agoriad arddangosfa artist gweddol enwog cwpwl o flynyddoedd yn ôl.

Treuliais i a fy mam rhan fwyaf o'r noson yn chwerthin ar bobl yn trio cyflwyno'u hunain i'r artist yma, a chael eu hanwybyddu achos oedd o lot rhy bwysig a phrysur i siarad efo neb.

Ar ôl cwpwl o oriau oedden ni 'di dechrau diflasu, felly aethom i aros yn y bar cyn dal ein trên adre. Rhywsut, o'dd yr artist yma wedi llwyddo dianc o'i ffans i gyd, a cherddodd i mewn i'r bar a dod yn syth draw i siarad efo ni.

Nath o gam-glywed fy enw, a meddwl mai "Kevin" o'n i. O'dd o'n bod yn rhyfeddol o gyfeillgar a chatty, efo fi yn enwedig, ond dwi erioed wedi gweld rhywun yn 'neud emergency getaway mor gyflym â fo pan sylweddolodd mai "Cerys" o'n i ac nid "Kevin."

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

O'n i'n chwarae Frau Schmidt yn y cynhyrchiad ysgol gynradd o The Sound of Music, ac achos dim ond un olygfa oedd gennai roedd rhaid i mi 'neud y newidiadau llwyfan hefyd.

O'dd hi'n rili dywyll ar lwyfan, ac ar ôl un o'r newidiadau nes i gamu i ffwrdd o'r llwyfan yn y lle anghywir ac yn lle mynd lawr y grisiau cwympais oddi ar y llwyfan a glanio ar ben Captain von Trapp.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Yn yr eiliad yma: blinedig, dryslyd, hwyr.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Es i ymarfer y ffidil yn ddiweddar, ac o'dd o'n swnio mor erchyll nes i grio.

Ffynhonnell y llun, Cerys Hafana
Disgrifiad o’r llun,

Cerys yn chwarae'r delyn

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n colli pob dim, yn hwyr i bopeth, a wastad yn y lle anghywir ar yr amser anghywir. Dwi hefyd yn siarad gormod o Wenglish.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Dwi ddim yn tueddu o fwynhau nosweithiau allan fel rheol, ond es i i Focus Wales dros y penwythnos ac roedd fersiwn Band Pres Llareggub o Creep gan Radiohead am 2 yn y bore gyda ffrindiau o'n i heb weld ers dwy flynedd yn lot o hwyl.

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi'n tueddu i anghofio popeth dwi erioed wedi darllen/gwylio yn syth ar ôl darllen/gwylio fo.

Ond y llyfr 'nath gael y mwyaf o effaith arna i oedd The Shipping News. Methu cofio pam, achos o'n i tua 12 yn darllen hi, ond dwi'n meddwl oedd na rywbeth am ffordd Annie Proulx o sgwennu oedd wedi ysbrydoli fi'n fawr.

Dwi hefyd yn ffan fawr o'r llyfrau The Confessions of Georgia Nicolso, gan Louise Rennison.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Nes i ffindio'r cerdyn post yma mewn rhyw siop vintage cwpwl o flynyddoedd yn ôl, ac roedd 'na rywbeth amdano fo 'nath sefyll allan i fi.

Ffynhonnell y llun, Cerys Hafana
Disgrifiad o’r llun,

Jascha Spiwakowsky

Ma'r person yn y llun yn edrych mor cŵl, ond hefyd mor amwys o ran rhywedd ac oedran.

Nes i wedyn ffindio allan mae llun o Jascha Spiwakowsky ydy hwn. Pianyddion clasurol gorau'r ugeinfed ganrif ('swn i'n argymell mynd i ddarllen ei dudalen Wikipedia hefyd - rêl page turner).

Ond dwi'n dewis credu bod y person yn y llun yn rhyw fod goruwchddynol efo casgliad gwych o gotiau sydd wastad yn gwylio drosta i.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Swn i isio cael sgwrs efo Wilma (o'r fideo yma, dolen allanol), er mwyn trafod ei defnydd arloesol o'r delyn deires.

Byswn i wrth fy modd yn gwneud rhaglen lle dwi'n mynd o gwmpas Cymru (a falle'r byd) yn trio darganfod y Wilma go iawn (à la Searching for Sugarman).

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

O'n i'n cysidro deud Iolo Morgannwg ar gyfer y cwestiwn "gyda pwy fyddet ti'n cael diod", felly 'na'i ddeud o yn fan hyn yn lle (os ydy Cymru Fyw yn caniatau tamed bach o time travel)!

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Iolo Morganwg ei eni ym mhentref Pennon ger Llancarfan

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n arfer siarad efo acen Manceinion rili cryf, a rhyw ddydd dwi'n bwriadu mynd i fyw ym Manceinion eto er mwyn cael hi nôl.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

'Swn i siŵr o fod yn creu rhestr o'r holl bethau dylswn i neud, a wedyn procrastinatio trwy'r dydd.

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Meinir Olwen

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw