'Mae pobl fyddar yn gallu dawnsio'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Gwyliwch Nel Mai yn dweud sut mae hi'n dysgu dawnsio heb glywed y gerddoriaeth

Does dim angen clywed cerddoriaeth i allu dawnsio na'i fwynhau. Gallwch deimlo curiadau cerddoriaeth drwy eich corff sy'n rhoi profiad gwbl unigryw i chi.

Dyna neges Nel Mai sy'n ddawnswraig stryd a hip hop o Fethesda.

Ers mynychu Academi Westend ym Mangor a derbyn gwersi dawnsio gan ei thiwtor, Efa Gaffey, mae Nel, sy'n fyddar, wedi dod i gredu ynddi hun fel dawnswraig. Daw hynny ar ôl cyfnodau o deimlo stigma a rhagfarn nad ydi pobl fyddar yn medru dawnsio na mwynhau cerddoriaeth.

Dros yr wythnosau diwethaf mae gwylwyr y gyfres ddawnsio Strictly Come Dancing wedi bod yn gwylio'r actores fyddar, Rose Ayling-Ellis, sy'n chwarae rhan Frankie ar Eastenders, yn dawnsio gyda'i phartner Giovanni Pernice.

Rose yw seleb byddar cyntaf y gyfres ac hyd yma, mae hi wedi swyno'r beirniaid, gyda'i dawns i thema'r ffilm Titanic, My Heart Will Go On, yn cyrraedd y tri uchaf ar y bwrdd sgorio yn wythnos 3. Yn ôl y beirniad Motse Mabuse, roedd gwylio'r ddawns yn 'foment hudol'.

Mae Nel Mai, sy'n 16 oed, yn falch bod Rose yn addysgu'r cyhoedd am sut mae pobl fyddar yn dysgu dawnsio drwy wrando ar eu corff a theimlo cryniadau'r gerddoriaeth.

Gwyliwch Nel yn trafod ei chariad at ddawnsio stryd a sut mae profiadau pobl fyddar o gerddoriaeth a dawns yn wahanol i bobl sydd ddim yn fyddar, ond yr un mor gyfoethog.

Hefyd o ddiddordeb: