Cymru i 'golli gwyddonwyr y dyfodol drwy symleiddio TGAU'

  • Cyhoeddwyd
gwyddoniaeth mewn ysgolFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

O 2025, ni fydd ffiseg, cemeg na bywydeg yn cael eu cynnig fel pynciau TGAU unigol

Gallai symleiddio gwyddoniaeth ar lefel TGAU olygu y bydd Cymru'n colli "rhai gwyddonwyr gwych yn y dyfodol," medd un academydd.

O 2025, ni fydd ffiseg, cemeg na bywydeg yn cael eu cynnig fel pynciau unigol mewn arholiadau TGAU yng Nghymru.

Yn hytrach, bydd disgyblion yn astudio tuag at un cymhwyster gwyddoniaeth sy'n cyfuno'r tri phwnc, ac a fydd yn werth dau TGAU.

Dywedodd Cymwysterau Cymru y bydd uno'r pynciau yn caniatáu i ddisgyblion gael amrywiaeth o TGAU.

Ond dywedodd Dr Lowri Mainwaring, arweinydd tîm mewn gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Met Caerdydd: "Rwy'n bryderus am y neges o gyfuno'r tri phwnc TGAU yn ei roi i ddisgyblion.

"Mae'r symleiddio yma, neu gydgyfeiriant gwyddoniaeth... beth mae hynny'n dweud wrth ein disgyblion am wyddoniaeth? Efallai nad yw mor bwysig ag y dylai fod?

"Yr un peth yr ydym wedi dysgu dros yr 20 mis diwethaf yw bod gwyddoniaeth yn bwysig dros ben... heb wyddonwyr ar draws y byd ni fyddai gennym ddealltwriaeth o Covid o gwbl a fyddai dim brechlyn gennym."

Ffynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Lowri Mainwairing yn pryderu y bydd y newid yn ei gwneud yn anoddach i ddisgyblion TGAU fynd ymlaen i Safon Uwch

Ychwanegodd Dr Mainwaring ei bod yn deall pam fod Cymwysterau Cymru am "greu mwy o le" yn y cwricwlwm i ddisgyblion fedru astudio pynciau eraill.

Ond mae'n poeni y bydd y newid yn arwain at lai o bobl yn mynd ymlaen i astudio Safon Uwch a graddau mewn gwyddoniaeth.

"Mae'n naid fawr eisoes rhwng TGAU a Safon Uwch, a thrwy ddod â'r cwricwlwm i lawr gam bach neu ei newid mewn TGAU gallai'r naid yna fod yn fwy fyth," meddai.

"Sut ydyn ni'n sicrhau bod y rhai sydd am fynd ymlaen i astudio gwyddoniaeth ar lefel uwch ddim ofn gwneud hynny?

"Mae angen i ni gymell pobl i fyd gwyddoniaeth a pheidio dweud 'maen iawn i chi wneud llai ohono', oherwydd rwy'n credu y gallwn ni golli rhai o wyddonwyr gwych yn y dyfodol am nad oes ganddyn nhw'n hyder [i fynd ymlaen]."

Ffynhonnell y llun, Eluned Parrott
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Eluned Parrott bod disgyblion angen gwybod eu graddau yn y pynciau unigol o fewn y TGAU newydd

Dywedodd Eluned Parrott, pennaeth Cymru yn yr Institute of Physics: "Rwy'n credu bod cael un gwraidd i'r gwyddorau gyda'i gilydd yn newid positif, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i gadw'r enw a'r graddau unigol i'r pynciau unigol oherwydd mae'r gwyddorau yn wahanol iawn o ran eu natur."

Pan ofynnwyd iddi sut y bydd y TGAU newydd yn cael eu gweld gan gyflogwyr a phrifysgolion y tu allan i Gymru, atebodd: "Mae gan Gymru'r hawl o osod ei agenda addysgol ei hun yn yr un modd ag y mae'r Alban yn gwneud, ac fe fydd yn wahanol i Loegr.

"Yr hyn sy'n rhaid i ni sicrhau yw bod gwerth a safon y cymwysterau y mae myfyrwyr Cymru'n eu cael yn cymharu gyda'r rhai mewn rhannau eraill o'r DU a rhannau eraill o'r byd."

Ffynhonnell y llun, S4 Project
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Mary Gagen yn credu bod rhoi pynciau mewn blychau unigol yn "rhan o'r rheswm pam ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd"

Dywedodd yr Athro Mary Gagn o Brifysgol Abertawe: "Ry'n ni'n gwybod bod ein ffordd o weithio yn y gorffennol lle mae pynciau'n cael eu rhoi mewn blychau bach heb gysylltu gyda'i gilydd yn rhan o'r rheswm pam ein bod yn wynebu argyfwng hinsawdd, ac mae'r cwricwlwm newydd yn un ffordd y mae Cymru'n sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol hefo'r sgiliau i gefnogi dyfodol gwyrdd a llewyrchus i bawb.

Dywedodd hefyd ei bod yn gwybod - oherwydd ei phrofiad o siarad gydag ysgolion gyda chynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion gan y brifysgol - fod gan athrawon "tipyn o bryder" am y cwricwlwm newydd.

"Fe wnaeth un athro grynhoi'r pryderon trwy ddweud ei fod yn teimlo fel bod arbrawf mawr yn digwydd yng Nghymru gyda'r cwricwlwm newydd a dyfodol ein plant, a bod pryder mawr am fod hynny'n digwydd ochr yn ochr gyda phandemig... roedden nhw'n teimlo mai'r hyn sydd angen ar addysg yng Nghymru nawr yw sefydlogrwydd a buddsoddiad," meddai.

Fe ddaw'r newidiadau i'r cymhwyster ar ddiwedd ymgynghoriad cyhoeddus, ac fe gafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd yr adroddiad yn cydnabod bod y farn wedi'i hollti, ac o'r 355 o ymatebion i'r ymgynghoriad, roedd 42% o blaid y newid a 40% yn erbyn.

Ffynhonnell y llun, Qualifications Wales
Disgrifiad o’r llun,

Catrin Verrall o Cymwysterau Cymru

Mae Catrin Verrall yn uwch reolwr cymwysterau gyda Cymwysterau Cymru, a dywedodd: "Dyw tua 20% o ysgolion yng Nghymru ddim yn cynnig TGAU ar wahan mewn bywydeg, cemeg a ffiseg ac mae hynny' ngolygu nad yw pob dysgwr yng Nghymru yn cael yr un dewis am ba wyddorau i astudio... felly ry'n ni'n mabwysiadu cynnig TGAU cyffredin i bob dysgwr a fydd yn rhoi mwy o gydraddoldeb a chyfleoedd.

"Ry'n ni hefyd yn uno pynciau mewn meysydd eraill, a phwrpas gwneud hynny yw rhoi mwy o ryddid i ddysgwyr ac ysgolion i ddewis cymysgedd TGAU sy'n dangos ystod a chydbwysedd y cwricwlwm newydd."

Ychwanegodd fod prifysgolion "wedi mynegi eu dewis i gael dysgwyr gydag ystod o brofiadau dysgu gwahanol".

"Mae'r cymwysterau yma yn gyfle cyffrous i ni fedru ailddychmygu cymwysterau sy'n addas i'r dyfodol ac yn berthnasol a diddorol i'n dysgwyr ifanc yng Nghymru," ychwanegodd.

Pynciau cysylltiedig