Achos posib o bigo â nodwydd yn Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Merch ifanc yn dawnsio ar noson allanFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i achos posib o ymosod trwy bigo â nodwydd yn Aberystwyth nos Fercher.

"Ar yr achlysur hwn nid oes cred bod hylif wedi ei chwistrellu i'r dioddefwr," meddai'r Arolygydd Matthew Howells.

"Mae'r math yma o drosedd yn denu sylw'r cyfryngau ar draws y wlad ac rydym yn ymwybodol o negeseuon ar blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol ar y mater a fydd yn ddiamau yn destun pryder i lawer."

Dywedodd bod y llu'n gweithio gydag adran drwyddedu Cyngor Ceredigion a rheolwyr tafarndai i godi ymwybyddiaeth ynghylch y math yma o ymosodiad "ac yn gofyn i bawb fod yn wyliadwrus mewn tafarndai a chlybiau".

Ychwanegodd eu bod "hefyd yn gweithio gyda'r Brifysgol i adnabod personau eraill y cyfeiriwyd atynt mewn negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol" er mwyn casglu tystiolaeth fel rhan o'r ymchwiliad.

"Fe wnawn ni bopeth posib i wneud rhanbarth y llu mor anghysurus â phosib i'r rheiny sy'n meddwl am gyflawni'r troseddau hyn," meddai.

Mae'r llu'n atgoffa'r cyhoedd o'r camau y gellir eu cymryd mewn tafarndai a chlybiau i atal rhywrai rhag eu sbeicio, sef rhoi cyffur yn eu diodydd er mwyn manteisio arnyn nhw wedi i'r sylwedd eu gwneud yn fwy agored i niwed.

Pynciau cysylltiedig