'Plant yn cael eu brechu ar draul pobl hŷn a bregus'
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder bod plant yn cael eu brechu rhag Covid-19 tra bod degau o filoedd o bobl hŷn a bregus yn dal heb gael y cwrs llawn.
Yn ôl un arbenigwr iechyd cyhoeddus mae tua 90,000 o bobl yn y categori hwnnw heb gael ail bigiad, a rhai heb gael y cyntaf.
Ond wrth i'r gyfradd heintio barhau'n uchel ymhlith plant a phobl ifanc mae Llywodraeth Cymru a meddygon yn galw ar bawb sy'n cael cynnig brechlyn i'w dderbyn.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan yn mynnu bod y rhaglen frechu ar y trywydd cywir.
Pwysau 'di-angen' ar adnoddau
Mae'r cynllun brechu yn mynd yn ei flaen a phobl ifanc rhwng 12 a 15 oed yn cael cynnig y brechlyn ar hyn o bryd.
Ond ym marn cyn-gyfarwyddwr clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, Dr Roland Salmon, mae brechu pobl ifanc yn rhoi pwysau di-angen ar y gwasanaeth iechyd.
"Os y'ch chi'n defnyddio resource imiwneiddio ar gyfer y plant rhwng 12 a 15 oed, does dim resource ar gael [ar gyfer] imiwneiddio y bobl mewn risg clinical neu'n fwy na 60 oed," meddai.
Ychwanegodd bod 90,000 o bobl yn y grwpiau risg uchel ar hyn o bryd sydd heb eu brechu'n llawn.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf plant a phobl ifanc sy'n cael eu heintio fwyaf ar hyn o bryd.
Mae 39% o achosion positif dan 19 oed, 27% o achosion rhwng 10 a 19 oed ac mae 'na amcangyfrif fod Covid ar dros 12% o blant 12 oed.
Ac os nad yw oedolion iau wedi eu brechu yna maen nhw bedair gwaith yn fwy tebygol o fynd i'r ysbyty na rhai sydd wedi eu brechu.
"Dylsa ni fod yn neud yr un ymdrech i bawb, i fod yn onest," meddai'r meddyg teulu, Dr Eilir Hughes.
"Pwy bynnag sydd yn medru dod ymlaen i gael y brechlyn, mi ddylsa ni fod yn medru cynnig o iddyn nhw... ma' pawb yn medru lledaenu'r feirws 'ma a dyna mewn gwirionedd 'da ni'n trio cwffio yn fan hyn.
"Dwi'n deall bod ella angen roi mwy o bwyslais ar bobol hŷn ond dwi yn meddwl dylsan ni fod yn canolbwyntio ar roid o i bawb."
'Sawl rhaglen yn rhedeg ar yr un pryd'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Dwi yn meddwl bod ni ar y trywydd cywir, ac wrth gwrs y'n ni'n gobeithio dros gyfnod hanner tymor bydd plant yn cymryd y cyfle i gael eu brechu."
Mae'r rhaglen frechu, meddai, yn "eitha' cymhleth erbyn hyn lle mae 'na lot o raglenni yn digwydd ar yr un pryd, ond os rwbeth mae e'n bwysig ein bod ni'n diogelu'r rheiny sydd yn fwy tebygol o ddiodde".
"Felly y booster yna sydd yn bwysig, yn arbennig o gofio ein bod hi nawr llawer o fisoedd ers i bobl gael yr ail frechlyn mewn rhai o'r categorïau yma."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021