Beth yw sefyllfa Covid yng Nghymru?

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Prawf PCRFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ein bod ni am wynebu gaeaf "heriol iawn" wrth i gyfradd achosion Covid Cymru godi i'r uchaf o holl wledydd y DU.

Tra bod galwadau i ail-gyflwyno rhai cyfyngiadau Covid-19 yn Lloegr, mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio fod nifer o'r rheolau hyn - fel gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth cyhoeddus a phasys Covid - eisoes mewn lle yng Nghymru.

Sut mae ffigyrau Covid wedi newid yng Nghymru, a beth yw ymateb y Llywodraeth?

Beth yw'r gyfradd Covid yng Nghymru?

Mae'r gyfradd achosion am bob 100,000 o bobl dros gyfnod o saith diwrnod wedi codi i 617.0 yng Nghymru.

Mae hwn yn uwch nag yn unrhyw wlad arall yn y DU, ac yn uwch na'r gyfradd o 524.1 wythnos yn ôl.

Cafodd 13 marwolaeth yn gysylltiedig â Covid-19 eu cofnodi yn y 24 awr hyd at 09:00 ddydd Mawrth.

Yn yr un cyfnod, cadarnhawyd 3,450 o achosion newydd o'r feirws, gan ddod â'r cyfanswm ers dechrau'r pandemig i 408,294.

Ar gyfartaledd, mae 40,000 o achosion newydd o Covid bellach yn cael eu cofnodi bob dydd yn y DU. Mae hyn yn is o lawer na'r brig waethaf ym mis Ionawr, ond yn sylweddol uwch nag ym mwyafrif o wledydd y gorllewin.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Beth yw'r sefyllfa mewn ysbytai?

Mae'r nifer o bobl sydd yn mynd i'r ysbyty gyda Covid bob dydd ar gyfartaledd wedi codi i 40, o'i gymharu a 35 wythnos yn ôl.

Gan gynnwys cleifion sy'n gwella o Covid, neu mae modd tybio fod Covid ganddynt, mae 8.3% o'r holl gleifion mewn ysbytai yng Nghymru yn gleifion Covid.

Gan fod eisoes angen i'r GIG wynebu pwysau arferol y gaeaf, gall unrhyw gynnydd yn y nifer o gleifion Covid gael effaith fawr ar y wasanaeth.

Bellach, mae 90% o wlau mewn ysbytai aciwt yng Nghymru yn llawn - yr uchaf ers dechrau'r pandemig.

Pwy sy'n gweld y cyfraddau uchaf?

Mae'r gyfradd heintio ar ei uchaf yn Nhorfaen (878.0) gyda Blaenau Gwent (861.7) a Chaerdydd (795.3) yn ail a thrydydd.

Mae'r gyfradd ar ei isaf yng Ngheredigion (338.4), Sir Fflint (380.5) a Wrecsam (386.9).

Mae 50% o'r holl achosion ymysg pobl o dan 30 oed. Mae 44% o dan 19, a 12% o dan 10.

Achosion Covid-19 fesul oedran. Nifer achosion positif, 19 Hydref.  .

Beth mae Llywodraeth Cymru wedi dweud?

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud eu bod nhw'n gwylio'r sefyllfa yn ofalus iawn.

Ond fe wnaethon nhw bwysleisio fod y mesurau mae pobl yn galw ar Lywodraeth y DU i'w cyflwyno - gorchuddion wyneb, pasys Covid, a gofyn i bobl weithio o adref - eisoes mewn lle yng Nghymru.

Dywedon nhw y byddwn ni'n gweld gaeaf heriol iawn, a bod dyletswydd gan bawb i helpu i rwystro'r feirws rhag ledaenu, gan gynnwys cael eich brechu.

Faint o bobl sydd wedi eu brechu yng Nghymru?

Mae 2,419,276 o bobl wedi derbyn eu dos cyntaf o'r brechlyn, ac mae 2,237,199 wedi eu brechu'n llawn.