Prif swyddog: Ystyried cyfyngiadau Covid llymach 'yn anochel'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Pobl mewn gig Manic Street Preachers yng Nghaerdydd ym mis MediFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oedd cadw pellter yn ofynnol yn y cyngerdd hwn gan y Manic Street Preachers yng Nghaerdydd yn ddiweddar

Mae'n "anochel" y bydd rhaid i wleidyddion Cymru drafod mesurau llymach i atal cynnydd Covid-19, yn ôl prif swyddog meddygol Cymru.

Dywedodd Dr Frank Atherton y byddai'r llywodraeth yn gorfod ystyried symud o gyfyngiadau lefel sero i lefel 1 neu gau rhai lleoliadau, wrth i lefelau'r haint gynyddu.

Nid oedd y ffigyrau diweddaraf ar gael ddydd Llun gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, ond ddydd Sul, 24 Hydref, cyhoeddwyd bod 716.9 achos i bob 100,000 o bobl yng Nghymru - y ffigwr uchaf ym mhob un o wledydd y DU, a'r uchaf ers dechrau'r pandemig.

Mewn cyfweliadau gyda'r BBC, dywedodd Dr Atherton bod symud o lefel sero i lefel 1, a "chau y pethau yr ydym newydd eu hailagor" yn rhai o'r mesurau y dylid eu trafod.

'Blino'n well na marw'

"Dwi'n gobeithio na fydd rhaid gwneud hynny, ond mae'n wir yn gyfrifoldeb ar unigolion, yn y pen draw, i wneud y pethau hynny yr ydym yn gwybod y byddent yn lleihau trosglwyddiad yr haint.

Roedd rhai pobl yn ymddwyn fel pe bai'r pandemig drosodd, meddai, ac yn anwybyddu rheolau gwisgo mwgwd a chadw pellter.

Disgrifiad o’r llun,

Mae mesurau fel pasys Covid wedi dod i rym, ond bydd rhaid mynd ymhellach, meddai Dr Atherton

Dywedodd ei fod wedi gweld pobl yn peidio defnyddio gorchudd wyneb, hyd yn oed pan mae'n ofynnol i wneud hynny yn ôl y gyfraith.

"Mae'n fy mhoeni pan welwn bobl yn heidio i mewn i dacsis - fel y gwelais ym Mae Caerdydd neithiwr [nos Sul] - heb orchudd wyneb a neb yn eu herio ynglŷn â hynny.

"Mae pobl wir wedi blino ar hyn oll, rydym i gyd wedi cael llond bol ar y coronafeirws, ac mae hynny'n ffactor mae'n debyg, ond y gwirionedd yw - mae bod wedi blino ar rywbeth yn well na bod wedi marw."

"Rwy'n teimlo'n rhwystredig," ychwanegodd.

"Gwyddom fod brechu yn effeithiol ac rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i godi'r graddfeydd [o bobl sydd wedi cael eu brechu], ond rydym yn dibynnu ar gymunedau a busnesau i wneud y peth iawn i'n cadw ni'n saff."

Disgrifiad o’r llun,

Gwirio pasys Covid-19 mewn clwb nos yng Nghaerdydd

Ar raglen Radio Wales Breakfast dywedodd Dr Atherton: "Mae canran arwyddocaol o'r boblogaeth yn dal i ymddwyn gyda gofal ac yn sylweddoli nad yw'r perygl drosodd eto, ond mae 'na deimlad mewn llefydd eraill fod popeth drosodd.

"Pan welaf ganolfannau hamdden yn orlawn, a phobl ddim yn cadw pellter cymdeithasol, mae hynny'n fy mhoeni'n arw.

"Dyma sut mae'r feirws yn lledaenu ac os na allwn ni, fel cymdeithas, drefnu ein hunain i ddilyn y canllawiau y gwyddom y byddant yn atal trosglwyddo'r haint, yna mae'n bosib y bydd angen dod â mesurau a gofynion cyfreithiol mwy llym yn ôl.

"Ond mae hynny i fyny i'r gweinidogion."

Dadansoddiad ein gohebydd iechyd, Owain Clarke

Er nad yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ffigyrau newydd heddiw, mae'r patrwm yn ddigon eglur.

Mae cyfraddau Covid yma yn uwch nag ar unrhyw adeg ers dechrau'r pandemig a Chymru bellach gyda'r lefelau uchaf o heintiadau ym Mhrydain.

Yr hyn sy'n achosi gofid hefyd yw - er bod y nifer sydd angen gofal ysbyty oherwydd y feirws yn llawer llai o gymharu â'r tonnau blaenorol (yn adlewyrchu effaith y brechlynnau, a'r ffaith bod llawer iawn mwy o bobl iau yn cael eu heintio y tro hwn) - mae'r niferoedd yn cynyddu'n raddol.

Ry'n ni'n gwybod eisoes fod y straen ar wasanaethau iechyd a chymdeithasol yn aruthrol - yn delio â nifer fawr o bobl yn sâl a chyflyrau iechyd eraill a rhestrau aros anferth.

Felly beth fydd ymateb Llywodraeth Cymru pan fydd yr adolygiad nesaf o gyfyngiadau yn cael ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos?

Mae'r Gweinidog Iechyd eisoes wedi dweud fod 'na drafodaeth am ehangu'r lleoliadau lle mae angen dangos pasys Covid, a phrif feddyg llywodraeth Cymru yn dweud fod angen gwneud mwy i annog pobol i ymddwyn yn gyfrifol.

A chofiwch fe fydd Cymru yn chwarae Seland Newydd dros y penwythnos a miloedd o gefnogwyr rygbi yn heidio i'r brifddinas.

Ond dim awgrym fod cyfyngiadau llawer llymach ar ein bywydau bob dydd ar y ford, o leiaf am y tro, - a hynny am fod 'na risg economaidd â chymdeithasol ynghlwm a rheiny hefyd.