Slàinte Mhath
- Cyhoeddwyd
Chwi gewch faddeuant os nad ydych chi wedi clywed am chwisgi o'r enw Timah sy'n dod o Falaysia. Dyw hi ddim yn wirod enwog nac, i fod yn onest, yn un arbennig o neis chwaith!
Yr unig beth sy'n nodweddi Timah mewn gwirionedd yw bod hi'n un o ddim ond dau ddistyllfa chwisgi yn y byd Mwslimaidd. Distyllfa Murree ym Mhacistan yw'r llall.
Nawr lleiafrif sy'n Fwslemiaid ar ynys Borneo lle mae'r chwisgi yn cael ei gynhyrchu ond dyw hynny ddim wedi rhwystro gwleidyddion y tir mawr rhag mynd i ryfel, nid yn erbyn y chwisgi ei hun, ond yn erbyn ei enw.
Afraid yw dweud bod y ddiod wedi ei chynhyrchu ers 1871 a bod neb wedi cwyno o'r blaen. Afraid hefyd yw nodi mai alcam yw ystyr y gair Timah yn y Falayeg ac mai diod i feistri Prydeinig y diwydiant hwnnw oedd Timah yn wreiddiol.
Mae'r ffaith bod Timah hefyd yn llysenw un o blant y proffwyd Muhammad wedi bod yn ddigon i ambell wleidydd a phregethwr lansio un o'r rhyfeloedd diwylliannol yna sy'n nodweddu'r ganrif hon. Mae papurau a gwefannau Malaysia yn llawn o'r peth.
Nawr mewn gwlad sydd o hyd yn dod i delerau â'r ffaith bod bron i bum biliwn ddoleri o arian cyhoeddus wedi eu dwgyd trwy lygredd fe fyddai dyn yn credu bod gan wleidyddion bethau pwysicach i drafod nac enw distyllfa, ond dyna'r holl bwynt.
Mae datrys sgandal 1MDB, atal clirio fforestydd Borneo neu ddelio ac anturiaethau Beijing ym Môr De Tsiena yn anodd. Haws yw creu stŵr am chwisgi er mwyn sicrhau mantais wleidyddol fyrdymor.
Nid pigo ar Falaysia ydw i yn fan hyn. Mae 'na hen ddigon o ryfeloedd diwylliannol diystyr ym Mhrydain ar hyn o bryd gyda hyd yn oed mesurau iechyd cyhoeddus syml ac amlwg yn cael eu troi'n arfau gwleidyddol gan rai.
Cerwch i'r Unol Daleithiau, Awstralia neu unrhyw wlad ddemocrataidd arall ac mae'r un peth yn wir. Boed chwisgi, cerfluniau, enwau cymwys i fabis neu bysgod Môr Udd daeth dydd y sydd mawr y rhai bychan.
Mae hynny'n dod a ni at drafodaethau COP lle mae disgwyl i'n harweinwyr wneud rhywbeth sy'n gwbl groes i'w natur, sef edrych y tu hwnt i'r seicl etholiadol a gwneud pethau fydd yn brifo nawr er lles cenedlaethau'r dyfodol.
Mae hynny'n dipyn o beth ac efallai bod y ffaith bod cymaint wedi ei gyflawni dros y degawdau diwethaf yn rhyfeddod. Y broblem yw wrth gwrs nad yw hynny'n hanner digon.
Cafwyd y rhybuddion cyntaf am effaith rhyddhau carbon ar yr hinsawdd cyn belled yn ôl â'r 1890au.
Dyma ni, 120 o flynyddoedd yn ddiweddarach yn eistedd yn y last chance saloon. A fydd ein gwleidyddion yn ymateb yn ddigonol y tro hwn yntau ymestyn am y botel chwisgi tybed?