Ateb y Galw: Y delynores Meinir Olwen

  • Cyhoeddwyd
Meinir OlwenFfynhonnell y llun, Meinir Olwen

Y delynores Meinir Olwen sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma ar ôl iddi gael ei henwebu gan Cerys Hafana yr wythnos diwethaf.

Telynores ac ieithydd o ardal Aberystwyth yw Meinir Olwen. Mae'n aelod o Avanc, band gwerin ieuenctid Cymru, ac yn cynnal ymchwil ynglŷn â'r broses o ddysgu ieithoedd ym Mhrifysgol Bangor.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Eistedd yn y stafell ffrynt yn gwylio Cymru'n curo De Affrica yn y gêm rygbi gyntaf yn Stadiwm y Mileniwm ar y teledu.

Neil Jenkins oedd fy arwr pan o'n i'n dair!

Dy hoff le yng Nghymru a pham?

Traeth Y Borth. Ma' 'na rywbeth hudolus am grwydro drwy'r goedwig foddedig ar noson glir a gwylio'r haul yn machlud dros Ynys Enlli.

Ffynhonnell y llun, Meinir Olwen
Disgrifiad o’r llun,

Meinir ar draeth Borth

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn 'neud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?

Dringo Moel Hebog yn yr eira gyda phobl barchus y Clwb Mynydda. Cyrraedd y copa a llithro lawr i'r bwlch ar ein penolau!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Brexit.

O archif Ateb y Galw:

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Chwilfrydig, penstiff, sarcastig.

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?

Sai'n un sy'n crio'n aml.

Ond roedd gwrando ar Shaharzad Akbar, ymgyrchydd hawliau dynol o Afghanistan, yn trafod dyfodol ei gwlad ar y podlediad A Wish for Afghanistan yn ysgytwol.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Anghofio ateb negeseuon - sori!

Ffynhonnell y llun, Meinir Olwen

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Gormod i'w henwi - ond ma'n siŵr bod 'na lwyth o gerddoriaeth, ffrindiau a chwerthin!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?

Dwi'n dwli ar ddysgu am hanes ac mae'r podlediad You're dead to me yn wych.

Dwi hefyd eisiau cyfres arall o Dim rŵan na nawr - mae angen i ni wybod am ein hanes ni'n hunain.

Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?

Dau berson dwi'n eu caru'n fawr iawn: Mam-gu ac Iwan, fy mrawd mawr.

Ffynhonnell y llun, Meinir Olwen

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Sai'n siŵr am y syniad o fod yn berson arall. Ond fe fyddai bod yn aderyn i gael hedfan uwchben pawb a phopeth yn anhygoel!

Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Nes i chwarae'r cello ar ail albwm Bwncath.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?

Nofio yn y môr, wedyn canu a chwarae cerddoriaeth rownd coelcerth dan y sêr gyda'n ffrindie a fy nheulu.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod?

Gwerful Mechain - rhaid ei bod hi'n gymeriad a hanner!

Ffynhonnell y llun, Poetry Foundation
Disgrifiad o’r llun,

Gwerful Mechain yw'r unig fardd benywaidd canoloesol Cymraeg sydd gyda casgliad sylweddol o waith wedi goroesi ohono

Pwy sydd yn Ateb y Galw wythnos nesaf?

Sarah Cooper

Y gorau o Gymru ar flaenau dy fysedd

Lawrlwytha ap BBC Cymru Fyw