Gareth Anscombe yn ôl i Gymru i herio'r Crysau Duon
- Cyhoeddwyd
Bydd Gareth Anscombe yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru ers 2019 wrth iddyn nhw herio Seland Newydd yn Stadiwm Principality ddydd Sadwrn.
Mae'r maswr 30 oed, a gafodd ei eni a'i fagu yn Seland Newydd, wedi creu argraff i'r Gweilch eleni ar ôl iddo fod allan am ddwy flynedd gydag anaf i'w ben-glin.
Bydd blaenasgellwr y Dreigiau, Taine Basham, 21, yn dechrau ei gêm gyntaf i Gymru yng ngêm agoriadol Cyfres yr Hydref.
Er i Ken Owens gael ei gyhoeddi yn y tîm i ddechrau, o fewn hanner awr roedd wedi methu prawf ffitrwydd, gan olygu mai Ryan Elias fydd yn dechrau fel bachwr.
Does dim lle i'r cefnwr Liam Williams chwaith wrth iddo barhau i wella o lawdriniaeth i dynnu ei bendics.
Mae'r gêm ddydd Sadwrn y tu allan i ffenestr ryngwladol swyddogol World Rugby, sy'n golygu nad ydy chwaraewyr sy'n cynrychioli clybiau yn Lloegr ar gael.
Alun Wyn Jones fydd yn arwain y tîm, gan ennill ei 149fed cap dros Gymru - y nifer fwyaf erioed, hyd yn oed os yn anwybyddu ei gapiau i'r Llewod.
Yn y cyfamser, bydd maswr Seland Newydd, Beauden Barrett yn ennill ei ganfed cap i'r Crysau Duon, sydd wedi enwi tîm cryf ar gyfer y gem ddydd Sadwrn.
Seland Newydd ydy gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yng Nghyfres yr Hydref eleni, cyn i'r crysau cochion herio De Affrica ar 6 Tachwedd, Ffiji ar 14 Tachwedd ac Awstralia ar yr 20fed.
Fe fydd Stadiwm Principality yn llawn ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig, gyda phob tocyn wedi'i werthu ar gyfer y gyfer y gêm yn erbyn y Crysau Duon.
Daw hynny er fod cyfradd achosion Cymru ar ei lefel uchaf erioed, a bydd yn rhaid cael pàs Covid dilys er mwyn cael mynediad i'r stadiwm.
Ni fydd gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn fyw ar S4C eleni yn dilyn cytundeb gyda chwmni Amazon Prime.
Yn 2020 roedd gemau Cymru yn fyw ar Prime ac S4C, ond eleni uchafbwyntiau yn unig fydd gan S4C, a hynny rhyw awr wedi'r chwiban olaf.
Bydd y gemau ar gael gyda sylwebaeth iaith Gymraeg ar Prime.
Tîm Cymru
Johnny McNicholl; Owen Lane, Jonathan Davies, Johnny Williams, Josh Adams; Gareth Anscombe, Tomos Williams; Wyn Jones, Ryan Elias, Tomas Francis, Adam Beard, Alun Wyn Jones (c), Ross Moriarty, Taine Basham, Aaron Wainwright.
Eilyddion: Kirby Myhill, Rhys Carre, Dillon Lewis, Will Rowlands, Seb Davies, Gareth Davies, Rhys Priestland, Ben Thomas.
Tîm Seland Newydd
J Barrett; W Jordan, A Lienert-Brown, D Havili, R Ioane; B Barrett, TJ Perenara; J Moody, C Taylor, N Laulala, B Retallick, S Whitelock (c), E Blackadder, D Papalii, A Savea.
Eilyddion: S Taukei'aho, K Tu'inukuafe, T Lomax, T Vaa'i, A Ioane, B Weber, R Mo'unga, S Reece.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd12 Hydref 2021