Myfyrwraig o Fôn wedi lladd ei hun ar ôl canlyniad anghywir
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth myfyrwraig o Ynys Môn ladd ei hun wedi iddi glywed ei bod wedi methu arholiad ac ni fyddai'n parhau i'w thrydedd flwyddyn mewn prifysgol, clywodd cwest.
Roedd Mared Foulkes, 21 o Borthaethwy, yn astudio fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac roedd hi eisoes wedi ail-sefyll yr asesiad a'i basio.
Ond fe dderbyniodd Ms Foulkes e-bost oedd heb ystyried y marciau newydd, a'r noson honno fe yrrodd hi i Bont Britannia ble gafodd ei chorff ei ddarganfod.
Fe ddaeth y crwner i'r casgliad i Ms Foulkes farw o hunanladdiad, gan ddweud y gallai system Prifysgol Caerdydd o roi canlyniadau i fyfyrwyr fod yn ddryslyd a'i bod hi'n poeni y bydd yna farwolaethau eraill.
Yn y cwest yng Nghaernarfon ddydd Iau, fe wnaeth ei mam alw cymorth y brifysgol yn "erchyll", a dywedodd ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at farwolaeth ei merch.
Dywedodd pennaeth fferylliaeth y brifysgol fod yna wersi i'w dysgu, ac y byddent yn newid eu dulliau o gadarnhau a dosbarthu canlyniadau i fyfyrwyr.
Meddai'r crwner Katie Sutherland y byddai hi'n ysgrifennu at y brifysgol i ofyn iddynt ystyried gwelliannau brys, ac ystyried a fyddai'n bosib i fyfyrwyr dderbyn mwy o gymorth gan eu tiwtoriaid personol.
Person 'hyfryd, cwrtais a gweithgar'
Fe ddisgrifiwyd Ms Foulkes gan ei mam, Iona Foulkes, fel dynes ifanc oedd yn "caru ei ffrindiau a'i theulu" ac oedd yn benderfynol o ddatblygu ei gyrfa.
Buodd Ms Foulkes yn gweithio mewn fferyllfa yng Nghaernarfon rhwng astudio, lle ddisgrifiwyd hi gan staff fel person "hyfryd, cwrtais a gweithgar".
Fe barhaodd Ms Foulkes â'i hastudiaethau, gan weithio o adref yn bennaf yn ystod cyfnod clo 2020, a bu'n rhaid iddi ymdopi â marwolaeth ei nain ym Mai 2020.
Wrth gyflwyno tystiolaeth i'r cwest, dywedodd Iona Foulkes: "Dywedodd Mared ddim byd am ei chanlyniadau ar y diwrnod cyrhaeddon nhw.
"Dim ond wedyn edrychon ni ar ei ffôn, a gwelson ni ei bod hi wedi danfon neges at ei ffrind yn dweud 'gwnes i'n crap'."
Yn ôl Iona Foulkes, dywedodd ei merch ei bod hi am fynd i Tesco i brynu ambell beth, a gofynnodd a oedd angen unrhyw beth ar ei mam.
"Wedyn caeodd hi ddrws y rhewgell, cymerodd hi allweddi'r car ac aeth hi."
Chwalu 'breuddwydion a dyheadau'
Dywedodd Iona Foulkes bod myfyrwyr dal yn ifanc a bod angen cymorth arnynt.
"Byddai cael gwybod eich bod chi methu parhau [i'r flwyddyn nesaf], heb unrhyw gyswllt o'r brifysgol, yn erchyll i unrhyw un, heb sôn am fyfyriwr 21 oed.
"Fe fyddai hi wedi eu harswydo bod y brifysgol yr oedd hi'n ei charu, y cwrs roedd hi'n ei garu wedi dweud hynny.
Ychwanegodd bod "holl freuddwydion a dyheadau" ei merch wedi dod i ben pan dderbyniodd hi'r e-bost.
"Roedd ei gweithredoedd hi yn ganlyniad uniongyrchol o'r brifysgol ar y diwrnod hwnnw."
'Gwersi i'w dysgu'
Dywedodd yr Athro Mark Gumbleton, pennaeth yr ysgol fferylliaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fod Ms Foulkes wedi sefyll prawf ymarferol fis Mawrth.
Methodd hi'r prawf y tro hwnnw, ond fe wnaeth hi ei ail-sefyll ym mis Ebrill a phasio.
Ond marciau'r cais cyntaf gafodd eu hystyried yn yr e-bost canlyniadau dderbyniodd Ms Foulkes.
Esboniodd yr Athro Gumbleton fod hyn yn beth cyffredin, ond dywedodd fod yna "wastad gwersi i'w dysgu".
Dywedodd eu bod nhw wedi dilyn y rheolau, ond bod angen iddynt symud at ffordd symlach o gadarnhau canlyniadau.
"Yr her yw i osgoi sefyllfa lle'r ydym ni'n creu dryswch. Rydw i'n credu fod y brifysgol yn edrych ar hwn, a bod newidiadau am ddigwydd."
Dywedodd y crwner bod y dull hyn o rannu canlyniadau yn "gymhleth, yn ddryslyd ac yn gallu bod yn gamarweiniol."
Dywedodd hi ei bod wedi'i chysuro o glywed fod y brifysgol am adolygu'r broses, ond ei bod yn "parhau'n ofidus y bydd yna farwolaethau eraill."