Newid Hinsawdd: Taid a Fi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Gwyliwch Leisa Gwenllian yn dysgu am yr amgylchedd gan ei thaid, y naturiaethwr Duncan Brown

Gwrandewch ar 'Newid Hinsawdd: Taid a Fi' ar Radio Cymru nos Sul am 18:30 neu ar BBC Sounds.

Mae wyneb Leisa Gwenllian yn gyfarwydd i lawer fel cymeriad Kylie ar Rownd a Rownd. Ond y dyddiau yma, mae newid hinsawdd yn ei phoeni lawer mwy na chofio llinellau ei rhannau actio.

Fel llawer o bobl ifanc, mae Leisa yn poeni am yr amgylchedd, ac mae'n awyddus i fyw yn fwy cynaliadwy a dysgu am ffyrdd o warchod y blaned.

Cyn gadael ei chartref yn Llanrug i gychwyn ei hastudiaethau yn y coleg, aeth Leisa ar daith i gyfarfod rhai o'r bobl ar ei stepen drws sydd yn gwneud gwaith arbennig i wella'r amgylchedd mewn rhaglen arbennig i BBC Radio Cymru.

A phwy well i'w holi na ei Thaid yn Waunfawr, y naturiaethwr Duncan Brown, sy'n falch iawn bod Leisa'n ystyried yr amgylchedd o ddifrif.

Yma, mae Duncan wedi ysgrifennu llythyr i'w wyres wrth iddi hedfan y nyth.

Annwyl Leisa,

Tasa rhywun wedi deud wrtha i ddeng mlynedd yn ôl y basa ti a fi yn gweithio ar raglen am newid hinsawdd efo'n gilydd ar gyfer Radio Cymru, faswn i wedi ateb drwy ddeud 'tynna'r goes arall' neu debyg.

Ond dyma ni - wedi gwneud yn union hynny - a dwi wir yn edrych 'mlaen at glywed dy gyfweliadau di efo rhai o'n hen ffrindiau a chyn-gydweithwyr yn y maes dyrys hwn. Mae'n faes sydd gymaint mwy tyngedfennol i ddyfodol dy genhedlaeth di na fy un i, sydd yn beth arswydus iawn.

Erbyn hyn rwyt ti yn y coleg yn dilyn dy freuddwydion a gobeithio wir dy fod yn cael y profiadau gwychaf posib draw yn Lloegr bell. Mae amser wedi hedfan ers i ti fod yn hogan fach yn chwarae yn yr ardd yma, a dwi'n siwr y bydd gen ti stôr o straeon i'w hadrodd pan ddoi di yn ôl adra i dreulio'r Nadolig.

Os fyddi di rywbeth fel fi a Nain, fyddi di'n dal i sôn am y cymeriadau rwyt ti wedi eu cyfarfod hanner canrif ar ôl hynny - ac yn siŵr o gadw cysylltiad oes efo un neu ddau, gobeithio. Sgwn i be' fydd cyflwr yr hen blaned yma erbyn hynny?

Tydan ni wedi bod mor lwcus i gael byw mewn lle mor hardd a gwledig a chael poetsio wrth ein traed yn ystod eich plentyndod - chdi a dy frawd bach - mewn gardd mor fawr a gwyllt! Roeddwn i'n mynd trwy albwm hen luniau noson o'r blaen, a dyna lle roeddet ti yn agor pellenni tylluannod; paentio hylif melys o gwrw a stwnsh banana ar yr hen dderwen i ddenu pryfed, a dal gwyfynod yn y trap golau. Wyt ti'n cofio? Mae'r camera yn cofio! Ac wyt ti'n cofio'r gêm 'dosbarthu' hwnnw - hel cerrig neu gregyn ar y traeth a'u dosbarthu yn ôl eu maint, lliw neu siap? Dyna oedd hwyl, yndê?

Ffynhonnell y llun, Duncan Brown
Disgrifiad o’r llun,

Leisa a Taid yn paentio'r dderwen gyda chwrw melys a stwnsh banana i ddenu pryfed

Dwi wedi meddwl droeon am y gwahaniaeth rhyngddot ti a fi - tithau bron yn ugain oed, a minnau yn fy seithfed degawd. Bu'r genhedlaeth hŷn - tan yn ddiweddar o leiaf - yn poeni mwy am newid hinsawdd na dy genhedlaeth di. Mae hynny yn newid bellach gobeithio, diolch yn bennaf i Greta Thunberg, ond efallai ei fod yn anochel hefyd mai dyna sut oedd hi. Rydan ni gyd yn teimlo'n anninistriol pan 'dan ni'n ifanc ac mae'n hawdd iawn credu - oherwydd ein hieuenctid - fod yr hen fyd yma fel 'dan ni'n ei adnabod o, wedi bod felly erioed.

Ffynhonnell y llun, Duncan Brown
Disgrifiad o’r llun,

Taid yn rhoi Llyfr Natur Iolo yn anrheg iti

Mae 'nghenedlaeth i wedi byw ddigon hir i gofio'r gog yn canu ymhobman, nid dim ond ar ochr ambell fynydd fel mae o heddiw. Ni sy'n cofio'r gwenoliaid duon yn eu degau, os nad eu cannoedd, yn gwibio uwchben y stryd fawr ymhob tref yng Nghymru. Neu'r rygarŷg (be di hwnnw, medda ti?) yn crecian yn aflafar o ddyfnderoedd y caeau gwair - a mae hyd yn oed caeau gwair yn bethau dieithr erbyn hyn.

I ble'r aeth yr adar? Mae rhan o'r ateb i'w chael nid yng Nghymru fach yn unig ond yn Sbaen sychedig; y Sahara crasboeth, neu fforestydd y Congo. Fedrwch chi ddim bod yn blwyfol wrth astudio natur hyd yn oed wrth dreulio oes yn eich milltir sgwâr!

Wel, mae COP26 ar ein gwarthaf a phawb yn edrych ymlaen gyda gobaith ac ofn ar yr un pryd. Gobeithio'r gorau ac ofni'r gwaethaf, yndê? Mae'r penbandits eisoes yn 'rheoli ein disgwyliadau' trwy ddweud y bydd llwyddiant y COP hwn yn llawer anos i'w sicrhau nag y bu ym Mharis. Mae wedi ei gymharu efo gadael y cwestiynau anoddaf mewn arholiad tan y diwedd - ac mae'r amser i ateb rheiny wedi cyrraedd erbyn hyn.

Cadw'r ffydd yndê, 'rhen hogan! A dal ati i wneud y peth rydan ni yn ei wneud orau. Ond yn bennaf oll efallai, beth bynnag ein maes, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn meddwl yn fyd-eang a gweithredu'n lleol.

Ond yn bwysicach na hynny hyd yn oed - paid ag anghofio amdanon ni nôl yng Nghymru fach!

Cariad am byth

Taid

Gwrandewch ar sgwrs estynedig rhwng Duncan a Leisa:

Disgrifiad,

Sut fyd fydd hi yn 2050?

I glywed taith Leisa'n llawn, gwrandewch ar Newid Hinsawdd: Taid a Fi ar 31 Hydref am 18.30, ar BBC Radio Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Leisa yng nghwmni gwirfoddolwyr sy'n adfer mawndir Penmachno

Pynciau cysylltiedig